Mae artist o Ogledd Cymru wedi ymuno ag Ambiwlans Awyr Cymru i godi arian i'r elusen a werthfawrogir yn fawr.

Bydd Jocelyn Roberts yn rhoi'n hael yr holl elw o werthu paentiad gwreiddiol o adeilad Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaernarfon i’r elusen. Mae'r paentiad yn rhan o arddangosfa arfaethedig Jocelyn, 'Steps to Segontium', sy'n agor yn oriel 'Life: Full Colour' yng Nghaernarfon ar 7 Awst.

Dywedodd Jocelyn Roberts, “Rwyf wedi cwympo mewn cariad â Chaernarfon wrth baentio ei hadeiladau a'i lleoliadau gwych, gan ddod i adnabod y bobl leol a dod i wybod beth sydd mor arbennig am y dref. 

“Roeddwn am roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, felly penderfynais roi'r elw o werthu'r paentiad i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae gwasanaethau brys fel hyn yn hanfodol i'r dref a chymunedau anghysbell yng Ngogledd Cymru.”

Mae'r oriel 'Life: Full Colour' hefyd wedi hepgor ei chomisiwn ar y paentiad. Dywedodd Sara McKee, sylfaenydd a pherchennog 'Life: Full Colour': “Helpwch ni i gefnogi’r elusen wych hon drwy godi cymaint o arian â phosibl wrth werthu paentiad Jocelyn. Byddwch yn cael darn o waith celf gwreiddiol hyfryd gan artist lleol a thalentog, gan helpu gwasanaeth hanfodol ar yr un pryd.” 

Elusen ar gyfer Cymru gyfan yw Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n darparu gwasanaeth awyr brys, 365 diwrnod y flwyddyn, i'r rhai hynny sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n bygwth eu bywyd.

Nid yw'r elusen yn cael unrhyw gyllid uniongyrchol rheolaidd gan y Llywodraeth, ac mae angen iddi godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr 24/7.  Mae ymdrechion codi arian, fel yr un hon, yn helpu'r elusen i barhau i ddarparu ei gwasanaeth sy'n achub bywydau.

Ychwanegodd Alwyn Jones, Cydgysylltydd Codi Arian Cymunedol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch o galon i Jocelyn am ei charedigrwydd. Rydym hefyd yn ddiolchgar i oriel 'Life: Full Colour' yng Nghaernarfon am hepgor y ffi gomisiynu, wrth geisio gwerthu'r paentiad hwn. Hoffwn ddymuno'n dda iawn i Jocelyn ar gyfer yr arddangosfa arfaethedig, ac rwy'n siŵr y bydd yn werth ymweld â hi.”

Mae'r paentiad yn cael ei arddangos nawr yn oriel 'Life: Full Colour' a bydd yn un o'r prif atyniadau yn arddangosfa unigol Jocelyn, 'Steps to Segontium', a gaiff ei chynnal rhwng 7 Awst a 18 Medi. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys mwy na 40 o baentiadau o adeiladau a lleoliadau yng Nghaernarfon megis Bonta Deli, yr hen ffowndri a Rhes Segontium, a fu'n ysbrydoliaeth ar gyfer teitl y sioe. Mae Jocelyn hefyd wedi cynnwys paentiadau bywyd llonydd o wrthrychau, fel fforc o’r siop sglodion a ffôn yr harbwrfeistr, er mwyn cynnig elfen ychwanegol a chipolwg ar fywyd Caernarfon.

I ddysgu mwy, ewch i www.lifefullcolour.com neu dilynwch yr oriel ar y cyfryngau cymdeithasol.