Ein nod yw gwasanaethu Cymru gyfan, gan gynnwys cleifion ieuengaf Cymru.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru i Blant yn is-adran arbenigol o’n helusen, sy’n darparu gofal a chludiant arbenigol angenrheidiol i gleifion pediatreg a newydd-anedig. Mae ein pedwerydd hofrennydd yn golygu mai ni yw'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf ym Mhrydain, a ddefnyddir i ddarparu ystod eang o driniaethau ar gyfer cleifion pediatreg.
Rydym yn cynorthwyo tua 400 o blant a babanod bob blwyddyn, naill ai fel rhan o gyrchoedd argyfwng 999 neu drwy ddefnyddio ein hofrennydd penodol i’w cludo.
Yn aml mae angen cleifion ieuengaf Cymru lefelau uwch o ofal oddi wrth ysbytai pediatreg a newydd genedigol ar draws y wlad. Mae pob cyrch Ambiwlans Awyr Cymru i Blant yn cael ei hedfan gan ddau beilot wedi eu hyfforddi i safon uchel.
Ynghyd a’n peilotiaid, mae gennym yr unig Ymarferwyr Trosglwyddo Hofrennydd yn y DU sydd yn arbenigo yn y broses o gadw ein cleifion yn ddiogel yn gyfforddus tra’n hedfan.
Ymarferydd Trosglwyddo Hofrennydd Read more
Peilot - Helimed 67 Read more
Cyd-Peilot Helimed 67 Read more
Read more