Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.
Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.
.
"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.
Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."
Yn syml, ni fyddem yn gallu darparu ein gwasanaeth achub bywydau gwych hebddynt. Read more
Read more
Cefnogwch ein hadrannau codi arian a gweinyddu. Read more
Gwirfoddolwch yn eich cymuned leol. Read more
Cofiwch... nid yw pob archarwr yn gwisgo clogyn. Read more
P'un a ydych yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd neu ddefnyddio eich sgiliau presennol, mae rhywbeth i bawb. Read more
Cefnogwch ein tîm manwerthu. Read more
Cyfle i helpu yn ein stordy prysur iawn. Read more