Mae gyrrwr bysiau o Lanelli, a gaiff ei adnabod fel ‘Mr Selfie’, eisoes wedi cyrraedd ei darged o godi £1,000 o fewn 79 diwrnod cyntaf ei weithgarwch codi arian flwyddyn o hyd. Read more
Mae staff Menter a Busnes (MaB) yn defnyddio eu talentau codi arian i gefnogi gwasanaethau achub bywyd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Read more
Mae merch ysgol chwech oed wedi codi £500 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru drwy ddarllen 20 llyfr mewn 20 diwrnod yn ei hymdrech gyntaf i godi arian ar gyfer elusen. Read more
Ar ôl codi swm anhygoel o £22,109 ar gyfer yr elusen yn 2020, mae staff ymroddedig a chwsmeriaid hael Charlies Stores wedi rhoi cyfanswm o £106,637 erbyn hyn. Read more
Mae un o wirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru yn cymryd rhan yn ymgyrch codi arian yr Elusen Fy20 er cof am ei ffrind annwyl. Read more
Mae mam-gu o Fynwy wedi gosod yr her iddi'i hun o greu 20 o hetiau i fabanod a gafodd eu geni'n gynnar iawn fel rhan o'i hymgyrch codi arian ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Read more
Mae Domino's Pizza yn Llanelli wedi cofrestru i gymryd rhan yn ymgyrch codi arian Fy20 Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n dathlu pen-blwydd yr Elusen yn 20 oed. Read more
Mae brawd a chwaer garedig o Ddoc Penfro yn bwriadu cerdded 20 milltir ym mis Mawrth i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Read more
Mae un o wirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru wedi herio ei hun i lanhau 20 o draethau fel rhan o'i gweithgarwch codi arian Fy20 ar gyfer yr Elusen. Read more
Mae cwmni CMP Plant Hire Ltd (sy'n rhan o Fox Group) ar Ynys Môn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o waith achub bywydau 24/7 Ambiwlans Awyr Cymru drwy arddangos brand yr Elusen ar un o'i lorïau tipio. Read more
Bydd grŵp o fenywod o Gyfeillion ac Aelodau Sefydliad y Merched Pen-bre a Phorth Tywyn yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau i godi arian ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Read more
Mae gyrrwr bws o Sir Benfro wedi codi dros £13,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl iddo fynd yn sâl dros ddegawd yn ôl. Read more
Heddiw (01/03/21), ar achlysur ei phen-blwydd yn 20 oed, mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn edrych yn ôl ar ei hanes anhygoel ac yn talu teyrnged i bawb sydd wedi cyfrannu at ei gwasanaeth achub bywydau. Read more
Rhoddwyd mwy na 50 o fathodynnau pin unigryw a gafodd eu dylunio er mwyn codi arian i nifer o elusennau i griw Ambiwlans Awyr Cymru. Read more
Mae pryf llyfr o ardal Bancyfelin wedi codi dros £300 hyd yma ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru yn ei hymdrech gyntaf i godi arian ar gyfer elusen. Read more
Gwahoddir seiclwyr i gofrestru ar gyfer digwyddiad ‘Bike It 100’ Cilgeti yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd. Read more
Mae rhieni Ethan Ross, a fu farw ym mis Medi 2020 yn 17 oed, wedi codi mwy na £6,000 o'u targed o godi £20,000 er cof am y llanc ‘poblogaidd dros ben, ac uchel ei barch’. Read more
Mae cwmni cludo nwyddau wedi parhau â'i gefnogaeth i Ambiwlans Awyr Cymru drwy roi £1,000 i'r Elusen. Read more
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gwahodd y cyhoedd i gymryd rhan mewn her arbennig i ddathlu 20 mlynedd ers i'r Elusen gael ei sefydlu fel gwasanaeth sy'n achub bywydau. Read more
Mae cwmni yn Wrecsam wedi rhoi cyfarpar diogelu personol (PPE) hanfodol i staff a gwirfoddolwyr yn Ambiwlans Awyr Cymru. Read more
Mae dyn o Lanelli wedi cwblhau gweithgaredd codi arian y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei osgoi, sef her neidiau gwasg 24 awr, sydd wedi codi swm anhygoel o fwy na £4,000 i Ambiwlans Awyr Cymru. Read more
Mae parc carafanau ym Mhowys wedi parhau i gefnogi elusen hofrenyddion sy’n achub bywydau, er gwaethaf y ffaith nad oedd modd cynnal digwyddiadau codi arian yn 2020. Read more
Codwyd dros £5,000 i dair elusen bwysig ar ôl i grŵp o bedwar ffrind seiclo o Sandringham i Aberystwyth. Read more
Dathlodd mam-gu hael ei phen-blwydd yn 100 oed drwy ofyn i'w ffrindiau a'i theulu godi arian ar gyfer elusen hofrenyddion Cymru sy'n achub bywydau. Read more