Skip over main navigation
  • Log in
  • Basket: (0 items)
Wales Air Ambulance - Welsh
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn
English Manylion cyswllt Cyfrannwch
Menu
  • Pwy ydym ni
    • Amdanom Ni
      • Pwy ydym ni
      • Hanes a ffeithiau
      • Eglurhad Dryswch Elusennau
    • Ein Tîm
      • Cwrdd â'r Criw
      • Tîm Codi Arian
        • De Cymru
        • Gogledd Cymru
      • Ymddiriedolwyr
      • Noddwyr a Llysgenhadon
    • Ein Canolfannau Awyr
    • Swyddi Gwag
  • Beth rydym yn ei wneud
    • 24/7
    • Cyrchoedd
    • Straeon Cleifion
    • Meddygon a Cit
    • Ambiwlans Awyr Cymru i Blant
    • Cylchlythyr
    • Newyddion
      • Y newyddion diweddaraf
      • Cwrdd a'r Tîm Cystylliadau Cyhoeddus
      • Newyddion
      • Polisi Preifatrwydd
  • 20 Mlynedd
  • Sut i Roi
    • Rhoi Nawr
    • Apeliadau
    • 24/7 codi arian
    • Siop
      • Ein Siopau
      • Siopa gyda ni drwy eBay
      • Caffi HEMS
      • Rhoi Eitemau Ail-law
    • Anrhegion mewn Ewyllsiau
      • Pam adael Anrheg
      • Gwasanaeth Ysgrifennu Ewyllys Am Ddim
      • Ewyllys - Cwestiynau Cyffredin
    • Rhoi
      • Ffyrdd Eraill i'w Rhoi
      • Rhodd Cymorth
      • Rhoi Drwy’r Gyflogres
  • Cymryd Rhan
    • Cerdded Cymru
    • Codi Arian
      • Sut i Godi Arian
      • Syniadau Codi Arian
      • Adnoddau Codi Arian
      • Creu Tudalen Codi Arian
    • Digwyddiadau Codi Arian
      • Digwyddiadau Cymunedol
      • Digwyddiadau Her
    • Gwirfoddoli
  • Loteri
    • Ein Loteri
    • Canlyniadau
    • Cwestiynau Cyfferdin am ein Loteri
    • Telerau ac Amodau
    • Polisi Hapchwarae
  • Admin
    • Log in
  • Basket: (0 items)
  • telerau-ac-amodau
  1. Loteri
  2. Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau'r Loteri

Mae Loteri Achub Bywyd Wythnosol Ambiwlans Awyr Cymru wedi ei thrwyddedu gan y Comisiwn Hapchwarae o dan Ddeddf Gamblo 2005. Rhif Trwydded: 004829 Gwefan: www.gamblingcommission.gov.uk

Trwyddedai: Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Elusen, Llanelli Gate, Dafen, Llanelli SA14 8LQ

Rhif Elusen Gofrestredig: 1083645

Ffôn: 0300 0152 999 (gofynnwch am yr adran loteri)

E-bost: [email protected]

Wales


Telerau ac Amodau

Drwy gymryd rhan yn y Loteri, rydych yn cytuno i lynu wrth y Telerau ac Amodau hyn. Mae unrhyw gyfarwyddiadau ar gymryd rhan yn y Loteri yn rhan o’r Telerau ac Amodau hyn. Ni fydd unrhyw gais nad yw’n cydymffurfio â’r Telerau ac Amodau hyn yn ddilys.

Ceidw Ambiwlans Awyr Cymru yr hawl i ddiwygio ac addasu’r telerau ac amodau hyn heb rybudd.

Taliad:

Expand
  • Cost pob tocyn yw £1. Gallwch brynu mwy nag un tocyn hyd at uchafswm o 10 tocyn fesul raffl.
  • Rhaid talu ymlaen llaw er mwyn cymryd rhan yn y Loteri Achub Bywyd, a hynny drwy Ddebyd Uniongyrchol, siec neu gerdyn debyd/credyd. Os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol misol, bydd £4.34 (neu’r swm lluosog os oes gennych fwy nag un llinell o rifau) yn cael ei gasglu’n syth o’ch cyfrif banc.
  • Gellir trefnu taliadau Debyd Uniongyrchol dros y ffôn, ar ein gwefan neu drwy fandad ysgrifenedig. Mae’r mandad Debyd Uniongyrchol ar gael ar gefn ein taflenni neu gan ein swyddfa. Gallwch hefyd drefnu taliad Debyd Uniongyrchol ar ein gwefan. Os ydych wedi dewis talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, byddwch yn cael Llythyr Hysbysu Ymlaen Llaw.

Published: 18th July, 2018

Updated: 11th July, 2019

Author: Laura Francis

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Manylion y Raffl a’r Gwobrau:

Expand

  • Bydd aelodau newydd yn cael rhif(au) unigryw a ddewiswyd ar hap gan ein meddalwedd gyfrifiadurol gymeradwy a rhif aelodaeth personol
  • Bydd y raffl yn cael ei thynnu fel arfer bob dydd Gwener (ac eithrio pan fydd dydd Gwener yn ddiwrnod Gŵyl Banc, ac o dan y fath amgylchiadau, bydd y raffl yn cael ei thynnu ar y diwrnod gwaith nesaf yng Nghymru).
  • Mae’r gwobrau fel a ganlyn:

(a) Y Wobr Gyntaf - £1,000 yn wythnosol

(b) Yr Ail Wobr - £200 yn wythnosol

(c) Y Drydedd Wobr - £100 yn wythnosol

(d) Y Bedwaredd Wobr - 20 x £10 yn wythnosol

  • Caiff enillwyr eu hysbysu drwy’r post o fewn wythnos i’r dyddiad y cynhaliwyd y raffl, a fydd yn cynnwys y siec berthnasol. Caiff rhifau buddugol wythnosol (ynghyd â theitl a chyfenw’r tri phrif enillydd) eu cyhoeddi ar ein gwefan. Drwy gymryd rhan yn y Loteri Achub Bywyd, rydych yn cytuno i’ch teitl a’ch cyfenw gael eu cyhoeddi os byddwch yn llwyddiannus. Bydd y rhifau buddugol hefyd ar gael drwy gysylltu â’r Adran Loteri yn ein swyddfa yn Llanelli.
  • · Os na ellir talu gwobr o fewn 6 mis i ddyddiad y raffl, caiff ei fforffedu.

Published: 18th July, 2018

Updated: 18th July, 2019

Author: Laura Francis

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Canslo:

Expand

  • Gellir canslo aelodaeth ar unrhyw adeg, er na fydd unrhyw gais o’r fath a geir ar ôl 17.00 ar nos Iau o bosibl yn cael ei weithredu tan ar ôl y raffl wythnosol. Os ydych yn talu drwy archeb sefydlog neu gerdyn debyd / credyd yn rheolaidd, yna rhaid i chi ganslo yn ysgrifenedig drwy’r post neu e-bost. Er mwyn canslo taliadau cerdyn, rhaid i chi roi eich manylion cerdyn gwreiddiol i ni. Cysylltwch â’r Adran Loteri yn Llanelli am gymorth pellach.
  • Rydym yn cadw’r hawl i wrthod cais neu ganslo tanysgrifiad cyfredol yn ôl ein disgresiwn llwyr. Gellir ailystyried unrhyw benderfyniad o’r fath os cyflwynir apêl ysgrifenedig i Reolwr y Loteri cyn pen 7 diwrnod. Bydd penderfyniad Rheolwr y Loteri yn derfynol.

Published: 18th July, 2018

Updated: 11th July, 2019

Author: Laura Francis

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Newid manylion:

Expand

  • Cyfrifoldeb y chwaraewr yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newid i gyfeiriad neu unrhyw fanylion aelodaeth eraill a ystyrir yn angenrheidiol.

Published: 18th July, 2018

Updated: 11th July, 2019

Author: Laura Francis

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Ni fydd y trwyddedai yn gyfrifol am:

Expand
  • Unrhyw gynigion neu ohebiaeth a gaiff eu colli, eu dwyn neu eu hoedi yn y post, eu difrodi neu sy’n annarllenadwy, gan olygu na ellir adnabod yr enillydd, neu unrhyw gynigion neu ohebiaeth heb stamp digonol arnynt (nid yw prawf eich bod wedi postio’r eitem yn brawf ei bod wedi’i derbyn);
  • Unrhyw daliadau banc hwyr;
  • Methiant neu anallu’r Trwyddedai i gysylltu â chi a/neu ddyfarnu unrhyw wobr yn sgil gwallau, esgeulustod neu anghywirdeb o ran y manylion cyswllt neu’r manylion banc a roddwyd gennych neu fethiant ar eich rhan i’w diweddaru os ydynt yn newid;
  • Colledion neu ddifrod a achosir gennych yn sgil cymryd rhan yn y Loteri neu eich defnydd o unrhyw wobr;
  • Unrhyw ymyriadau neu wallau ar y Wefan;
  • Gwallau neu fethiannau o ran y caledwedd neu’r feddalwedd neu unrhyw achosion o golli cysylltiad â’r rhwydwaith, cysylltiadau diffygiol neu ddiffyg gwasanaeth; neu
  • unrhyw fethiant neu oedi y tu hwnt i reolaeth resymol y Trwyddedai.

Published: 18th July, 2018

Updated: 11th July, 2019

Author: Laura Francis

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Preifatrwydd

Expand
  • Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu eich preifatrwydd. Bydd y data y byddwn yn eu casglu gennych yn cael eu prosesu’n gyfreithlon yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (2018) ac yn cael eu defnyddio dim ond at ddibenion prosesu eich tocynnau raffl a chysylltu â chi os byddwch wedi ennill gwobr neu os byddwch wedi dewis cael deunydd marchnata gan Ambiwlans Awyr Cymru. Darllenwch ein Polisi Breifatrwydd llawn yma. 

Published: 18th July, 2018

Updated: 11th July, 2019

Author: Laura Francis

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyfrifoldeb cymdeithasol

Expand

  • Mae Deddf Gamblo 2005 yn cadarnhau bod gan Ambiwlans Awyr Cymru ddyletswydd statudol i ddilysu bod aelodau yn 16 neu’n hŷn, sef yr oedran gofynnol ar gyfer chwarae’r Loteri Achub Bywyd. Mae’n drosedd i unrhyw un o dan 16 oed chwarae loteri. Bydd Ambiwlans Awyr Cymru, lle y bo’n briodol, yn cynnal gwiriadau er mwyn dilysu’r gofyniad hwn, gan gynnwys gofyn am gadarnhad gan Asiantaethau perthnasol a all ddarparu’r cyfryw wybodaeth, os oes angen.
  • Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnal Loteri Gymdeithasol ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, gyda’r unig nod o godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod y loteri’n cael ei chynnal mewn ffordd ddiogel, deg a chymdeithasol gyfrifol, ac i gefnogi gamblo diogel ymhlith yr aelodau. Darllenwch ei Polisi Hapchwarae llawn yma.

Published: 18th July, 2018

Updated: 11th July, 2019

Author: Laura Francis

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cwynion

Expand

  • Byddwn yn delio â phob cwyn ac anghydfod yn unol â’n polisi, sydd ar gael ar ein gwefan neu drwy gysylltu â’n Hadran Loteri.

Published: 18th July, 2018

Updated: 11th July, 2019

Author: Laura Francis

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter
Back to top

Showing 10 of 8

Latest

  • Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn Rhoi Mwy na £18k i Elusen sy'n Achub Bywydau

    Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn Rhoi Mwy na £18k i Elusen sy'n Achub Bywydau

    Mae Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy wedi rhoi £18,162.48 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i gynilwyr ddewis yr Elusen i roi 1 y cant o'u Cyfrifon ‘Affinity Instant’.

  • 16 Ebrill 2021

  • Bydd Tom yn ymgymryd â phedair her enfawr er budd Ambiwlans Awyr Cymru

    Bydd Tom yn ymgymryd â phedair her enfawr er budd Ambiwlans Awyr Cymru

    Mae Tom Nicholas wedi gosod her enfawr i'w hun i gwblhau pedwar gweithgaredd sy'n rhoi prawf ar wytnwch corfforol er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru er cof am ei dad-cu, Godfrey Dobbins.

  • Plygwr dur yn torri 18 allan o 20 record plygu dur

    Plygwr dur yn torri 18 allan o 20 record plygu dur

    Mae tad o Bwllheli wedi defnyddio ei sgiliau fel plygwr dur i dorri 18 record byd am blygu dur er budd tair elusen bwysig.

Most read

  • Achub Bywydau. Dros Gymru

    Achub Bywydau. Dros Gymru

    Pob blwyddyn mae ein hofrenyddion yn cynnal tua 2,500 o gyrchoedd achub.

  • Cwrdd â’r Criw

    Cwrdd â’r Criw

  • Our missions

    Our missions

    Replace this with your content

  • Tîm Codi Arian

    Tîm Codi Arian

  • Ambiwlans Awyr Cymru i Blant

    Ambiwlans Awyr Cymru i Blant

    Hon yw’r adran arbenigol o’n helusen lle rydym yn darparu gofal a chludiant arbenigol gleifion pediatrig a newyddenedigol. Read more

  • Hanes a Ffeithiau

    Hanes a Ffeithiau

  • Ambiwlans Awyr Cyrmu

    Ambiwlans Awyr Cyrmu

  • Our history

    Our history

  • Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn Cyhoeddi Prif Weithredwr Newydd

    Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn Cyhoeddi Prif Weithredwr Newydd

    Mae'n bleser gan Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gyhoeddi ei bod wedi penodi Dr Sue Barnes fel ei Phrif Weithredwr newydd.

  • Cymdeithas Adeiladu Abertawe yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru yn 2020

    Cymdeithas Adeiladu Abertawe yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru yn 2020

    Mae Cymdeithas Adeiladu Abertawe wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel Elusen y Flwyddyn ei staff ar gyfer 2020.

Dolenni Defnyddiol

  • Cysylltu â Ni
  • Map o'r safle
  • Telerau ac Amodau
  • Polisi Preifatrwydd
  • Hygyrchedd
  • Login
  • My details
  • Log out
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Gwybodaeth

Ty Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen, Llanelli, SA14 8LQ

Maes Awyr Caernarfon, Dinas Dinlle, Caernarfon, LL54 5TP

Rhif Elusen Gofrestredig: 1083645. Hawlfraint © 2019