Dewis ni fel hoff elusen Expand Bydd dewis ni fel hoff elusen yn rhoi'r opsiwn i chi roi hyd at £25 wrth ddefnyddio PayPal i dalu. Mae hon yn ffordd gyflym o'n cefnogi heb fod angen trafodiad ar wahân.
Cadw ni fel un o'ch hoff werthwyr Expand Dewiswch ni fel un o'ch 'hoff werthwyr' er mwyn sicrhau nad ydych yn colli ein heitemau diweddaraf.
Cynyddu eich gwerthiannau drwy ein cefnogi ni Expand A wyddoch chi y gallwch ein cefnogi wrth werthu eich eitemau? Mae hyn yn lleihau eich ffioedd gwerthu, gan eich galluogi i fwynhau arbedion treth, yn ogystal â rhoi rhywbeth yn ôl i achos sy'n achub bywydau. Dyma eich camau syml er mwyn gwerthu i ni: Defnyddiwch yr adnodd chwilio elusennau a dewiswch Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru, yna gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych am yr adran 'donate a portion to charity' a dewiswch y ganran rydych am ei rhoi o'ch eitem restredig – yn amrywio rhwng 10% a 100%. Gwerthwch eich eitem a'i hanfon fel y byddech yn ei wneud fel arfer, heb unrhyw waith papur ychwanegol. Sicrhewch eich bod yn cael derbynneb rhodd – o fewn ychydig wythnosau ac ar ôl i'r prynwr dalu, bydd PayPal Giving Fund (sef partneriaid eBay) yn anfon y rhodd atom yn awtomatig, ynghyd â derbynneb rhodd i chi ei chadw. Hefyd, pa ganran bynnag y byddwch yn dewis ei rhoi, bydd eBay yn rhoi'r un ganran o'ch ffi gwerthu yn eich cyfrif. Felly, os byddwch yn rhoi 50% o'r gwerthiant i ni, bydd eBay yn rhoi 50% o'ch ffi gwerthu yn eich cyfrif. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y Canllaw Gwerthu i Elusen eBay.