Pam y dylwn wirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru Expand Mae yna sawl rheswm dros ddewis gwirfoddoli ar ein rhan. Mae'r mwyafrif o’n gwirfoddolwyr yn ymuno â ni am fod ein helusen wedi effeithio arnynt a’u bod yn adnabod rhywun y bu angen ein help arno, felly maent yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl. Mae rhai eraill am gwrdd â phobl newydd, meithrin sgiliau a phrofiad newydd, a chefnogi eu cymuned leol. Beth bynnag fo’ch rheswm, byddem wrth ein bodd eich croesawu i’r tîm.
A oes angen profiad arnaf? Expand P'un a oes gennych brofiad ai peidio, rydym bob amser yn ceisio dod o hyd i rôl wirfoddol sy'n iawn i chi. Cyhyd â'ch bod yn frwdfrydig ac yn barod i helpu, byddem wrth ein bodd eich croesawu i’r tîm.
Beth yw’r isafswm oedran ar gyfer gwirfoddoli? Expand Mae'n rhaid i chi fod yn 16 mlwydd oed o leiaf er mwyn gwirfoddoli gyda ni.
Faint o amser y mae angen i mi ei roi? Expand Eich dewis chi yn llwyr yw hynny. P'un a ydych yn dymuno gwirfoddoli awr yr wythnos mewn digwyddiad, neu weithio ugain awr yr wythnos yn un o’n siopau elusen, rydym yn ddiolchgar am unrhyw gymorth y gallwch ei roi. Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau ei fod yn brofiad pleserus a gwerth chweil.
A oes angen geirda arnaf? Expand Nid oes angen geirdaon arnom, ond os hoffech eu rhoi, gallwch nodi’r manylion ar eich ffurflen gais.
A fyddaf yn cael hyfforddiant? Expand Byddwch yn cael sesiwn sefydlu, naill ai gan y cydlynydd gwirfoddoli neu’r cydlynydd cymunedol. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
A fyddaf yn gallu adennill fy nghostau? Expand Byddwch yn cael ad-daliad am unrhyw gostau y byddwch yn mynd iddynt wrth wirfoddoli ar ein rhan. Byddwch yn cael ffurflen treuliau yn ystod eich sesiwn sefydlu, y gallwch ei rhoi i'ch cydlynydd cymunedol.
A fydd angen gwiriad DBS arnaf? Expand Mae gwiriadau DBS yn angenrheidiol ar gyfer rhai cyfleoedd gwirfoddoli.
A fydd gwirfoddoli yn effeithio ar fy mudd-daliadau? Expand I lawr o bobl, mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd, ennill profiad neu ychwanegu rhywbeth at y CV. Ni fydd gwirfoddoli yn effeithio ar eich budd-daliadau cyhyd â'ch bod yn chwilio am waith.
Mae gennyf anabledd, a allaf wirfoddoli? Expand Wrth gwrs, mae yna gyfle i bawb yn AAC. Hoffem glywed wrth unrhyw un sydd efo diddordeb wirfoddoli i ni, gan gynnwys pobl sydd yn byw gydag anabledd.