Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.


Mae'r cyfnod anodd hwn yn gwneud i ni sylweddoli bod angen diolch o waelod calon i'r rhai syn ein helpu yn ein bywydau beunyddiol.

O'r meddygon a'r nyrsys sy'n peryglu eu bywydau eu hunain, i'r gweithwyr mewn archfarchnadoedd a'r gyrwyr bysiau sy'n ein galluogi i fwynhau rhyw fath o normalrwydd – maent i gyd yn arwyr.

Mae gennym ninnau ein harwyr ein hunain yn yr elusen hon;

nid dim ond y criwiau a'r staff ystafell gefn gwych sy'n helpu Ambiwlans Awyr Cymru i barhau i gyflawni ei chenhadaeth achub bywydau hanfodol, ond hefyd ein gwirfoddolwyr anhygoel.

Bob wythnos, mae cannoedd o bobl o bob cefndir yn rhoi o'u hamser o'u gwirfodd er mwyn i'n meddygon awyr ddarparu gofal critigol i gleifion pan fo ei angen arnynt fwyaf.

Maent yn cyflawni rolau amrywiol – o helpu yn ein siopau neu warws i gasglu a chodi arian mewn digwyddiadau hanfodol.

Yr hyn sy'n eu huno yw awydd i newid bywyd rhywun er gwell.

Yn syml, heb ein cannoedd o wirfoddolwyr, ni fyddai Ambiwlans Awyr Cymru yn bodoli. Maent yn unigryw ac yn amhrisiadwy.

Felly, meddyliwch am ein gwirfoddolwyr a'r fyddin fach o bobl sy'n rhoi o'u hamser i gefnogi achosion teilwng eraill. Gallwch anfon neges o ddiolch atynt ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #WythnosGwirfoddolwyr.

Os ydych wedi cael eich ysbrydoli i ymuno â ni, e-bostiwch [email protected]. Yn anffodus, ni allwn brosesu ceisiadau newydd dan y cyfyngiadau symud presennol. Fodd bynnag, byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn recriwtio unwaith eto.

Cofiwch... nid yw pob archarwr yn gwisgo clogyn.