Cymorth Cleifion

Gall bod yn rhan o argyfwng meddygol neu ddamwain ddifrifol newid eich bywyd yn sylweddol. Gall fod yn anodd i'r claf a'i deulu.

Os ydych wedi derbyn triniaeth gan ein criw, ni ddaw'r cymorth i ben unwaith y byddwch wedi cyrraedd yr ysbyty.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb, neu angen siarad â rhywun, rydym yma i'ch helpu drwy gydol eich cyfnod gwella.

Pan mae ein hanwyliaid yn dioddef salwch neu anaf difrifol mae'n cael effaith mawr ar bawb o'u cwmpas. Gall y broses o wella fod yn hir, ac yn gyfnod anodd i bawb.

Efallai bod gennych lawer o gwestiynau neu angen siarad â rhywun. Mae ein Nyrsys Cyswllt Cleifion ar gael i'ch cefnogi ar hyd y daith hon a'ch rhoi mewn cysylltiad â'r criw a wnaeth drin eich anwylyd.

Os ydych yn adnabod rhywun sydd wedi cael help gan ein criwiau ac maent eisiau siarad am beth sydd wedi digwydd iddynt, anogwch nhw i gysylltu â ni.

Mae'r gofal rydym yn ei ddarparu yn ymestun tu hwnt i'r ysbyty, ac rydym yma i chi a'ch teulu pob cam o'r ffordd er mwyn darparu'r cymorth sydd ei angen arnoch.