Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.



.

.

.

Penderfynais ymuno â thîm gwirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru chwe blynedd yn ôl. Mae fy mam wedi bod yn gweithio i'r Elusen ers sawl blwyddyn a gofynnodd a hoffwn i gymryd rhan.

Rwy'n gwirfoddoli yn un o siopau Ambiwlans Awyr Cymru gan helpu ambell waith yr wythnos. Rwy'n gwneud amrywiaeth o bethau i helpu, gan gynnwys prosesu ffurflenni Cymorth Rhodd, glanhau, stemio a thagio dillad, a helpu cwsmeriaid.

Ers dechrau gwirfoddoli, mae fy hyder wedi gwella'n sylweddol ac rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd. Rwyf hefyd wedi datblygu fy sgiliau cyfrifiadurol. Fy hoff beth am wirfoddoli yw bod yn aelod o dîm a helpu Ambiwlans Awyr Cymru i gyflawni ei chenhadaeth, sef achub bywydau. Byddwn yn argymell gwirfoddoli i unrhyw un.

-

-

-


"Rwy'n mwynhau gwirfoddoli a chlywed am brofiadau pobl gyda'r gwasanaeth. Mae bron pawb yn adnabod rhywun sydd wedi cael budd o Ambiwlans Awyr Cymru."





"Dechreuais wirfoddoli am fy mod am roi rhywbeth yn ôl - gwnaeth y gwasanaeth hwn achub fy mywyd."