Ambiwlans Awyr 24/7 i Gymru

O 1 Rhagfyr ymlaen bydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dechrau darparu hofrennydd a fydd yn gweithredu yn ystod y nos, saith diwrnod yr wythnos. Mae hyn y golygu bod gwasanaeth ambiwlans awyr 24/7 bellach ar waith yng Nghymru.

Bu’n weledigaeth i Ambiwlans Awyr Cymru ddarparu gwasanaeth 24/7 erioed. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr un lefel o ofal lle bynnag y maent, a phryd bynnag y mae ei angen arnynt.

Er mwyn darparu gwasanaeth 24/7, mae angen i ni godi £8 miliwn bob blwyddyn. Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn gynnal gwasanaeth 24/7.

Mae ein gweledigaeth wedi dod yn realiti.



Bu’n weledigaeth i Ambiwlans Awyr Cymru ddarparu gwasanaeth 24/7 erioed. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr un lefel o ofal lle bynnag y maent, a phryd bynnag y mae ei angen arnynt. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi dadansoddi’r anghenion heb eu diwallu dros gyfnod o 24 awr er mwyn nodi’r canlynol:

  • achosion lle nad oeddem wedi gallu bod yn bresennol gan eu bod wedi digwydd y tu allan i’r oriau gweithredol.
  • achosion a ddigwyddodd yn ystod oriau gweithredol ond lle nad oeddem wedi gallu bod yn bresennol am ein bod eisoes yn ymdrin ag achos arall.

Canfu’r dadansoddiad hwn y canlynol:

  • Mae angen gwasanaeth ambiwlans awyr estynedig dros nos. Roedd tua 990 o achosion o ‘anghenion heb eu diwallu’ rhwng 8am ac 8pm dros gyfnod o 12 mis.
  • Mae cynnydd arbennig yn y galw rhwng 3pm a 12am. Mae’r cynnydd hwn yn fwyaf cyffredin yn y de ddwyrain.
  • Ar hyn o bryd, caiff digwyddiadau sy’n peryglu bywyd neu’n peryglu coes neu fraich rhwng 8pm ac 8am eu rheoli gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Yn yr achosion hyn, nid yw EMRTS/Ambiwlans Awyr Cymru ar gael i gynnig ei driniaethau safon Adran Achosion Brys.
  • Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil yn cyflwyno rhagor o gyfyngiadau wrth hedfan pan fydd yn dywyll, am resymau diogelwch. Byddai angen i unrhyw wasanaeth nos ystyried hyn, a dod o hyd i’r ffordd fwyaf diogel ac effeithiol o ddefnyddio hofrenyddion i gefnogi Cerbydau Ymateb Cyflym y gwasanaeth.