Ambiwlans Awyr 24/7 i Gymru

O 1 Rhagfyr ymlaen bydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dechrau darparu hofrennydd a fydd yn gweithredu yn ystod y nos, saith diwrnod yr wythnos. Mae hyn y golygu bod gwasanaeth ambiwlans awyr 24/7 bellach ar waith yng Nghymru.

Bu’n weledigaeth i Ambiwlans Awyr Cymru ddarparu gwasanaeth 24/7 erioed. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr un lefel o ofal lle bynnag y maent, a phryd bynnag y mae ei angen arnynt.

Er mwyn darparu gwasanaeth 24/7, mae angen i ni godi £8 miliwn bob blwyddyn. Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn gynnal gwasanaeth 24/7.

Mae ein gweledigaeth wedi dod yn realiti.



Ambiwlans Awyr Cymru (AAC), a lansiwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2001, yw gwasanaeth ambiwlans awyr swyddogol Cymru. Rydym yn darparu gwasanaeth awyr i helpu pobl sy'n wael neu wedi'u hanafu ledled y wlad.

AAC yw'r unig elusen ambiwlans awyr yng Nghymru, ar gyfer Cymru, ac rydym yn dibynnu'n llwyr ar roddion er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae pedwar hofrennydd gan yr Elusen. Mae'r gwasanaethau yng Nghaernarfon, Y Trallwng a Llanelli yn canolbwyntio ar alwadau brys 999.

Yn ogystal â hofrenyddion y tri gwasanaeth y cyfeirir atynt uchod, mae hofrennydd trosglwyddo arbenigol yn gweithredu o Hofrenfa Caerdydd er mwyn helpu i drosglwyddo cleifion rhwng ysbytai sy'n fwy nag awr i ffwrdd ar y ffordd. Mae'r gwasanaeth hwn, sef Ambiwlans Awyr Cymru i Blant, yn helpu timau trosglwyddo newydd-enedigol a phediatreg. Fodd bynnag, caiff ei ddefnyddio hefyd i drosglwyddo oedolion.

Canolfan Gyswllt Glinigol Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghwmbrân sy'n gyfrifol am gydgysylltu pob un o'n criwiau meddygol ledled Cymru, a chaiff y criwiau eu staffio gan dîm anfon clinigol.