Annwyl Ffrindiau,

Rydym yn byw mewn cyfnod na welwyd ei debyg o’r blaen, lle mae cyfyngiadau neu effeithiau feirws COVID-19 yn effeithio ar bawb.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth achub bywydau i'r wlad gyfan.

Ni allwn wneud hyn heboch chi, ein grŵp ffyddlon o wirfoddolwyr.

Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus. Mae eich cyfraniadau wedi helpu i gefnogi'r cenadaethau sy’n achub bywydau y mae criwiau ein hofrenyddion wedi’u darparu ers nifer o flynyddoedd.

Yn unol â chanllawiau'r llywodraeth, rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i ohirio digwyddiadau codi arian awyr agored a chau ein siopau am y tro.

Nid oedd y penderfyniad hwn yn un hawdd, ac rydym yn hollol ymwybodol o'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar eich gwaith gwirfoddoli.

Gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn dychwelyd i’n gweithgarwch codi arian arferol cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i ni wneud hynny.

Wrth gwrs, rydym yn parhau i gefnogi gwaith meddygol hanfodol criwiau ein hofrenyddion, sy’n dal i ymateb i alwadau yn ystod y pandemig.

Yn y cyfamser, cadwch mewn cysylltiad â’ch newyddion a'ch diweddariadau. Cysylltwch â mi yn [email protected] neu eich rheolwr siop neu gydlynydd perthnasol.

Anfonwch eich manylion cyswllt atom hefyd – yn enwedig eich cyfeiriad e-bost – er mwyn sicrhau bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf ar eich cyfer pan fydd angen i ni gysylltu â chi.

I gloi, rydym yn dymuno iechyd da i chi a'ch anwyliaid ac rydym yn gobeithio eich gweld yn fuan iawn.

 

 

Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr