Ambiwlans Awyr 24/7 i Gymru

O 1 Rhagfyr ymlaen bydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dechrau darparu hofrennydd a fydd yn gweithredu yn ystod y nos, saith diwrnod yr wythnos. Mae hyn y golygu bod gwasanaeth ambiwlans awyr 24/7 bellach ar waith yng Nghymru.

Bu’n weledigaeth i Ambiwlans Awyr Cymru ddarparu gwasanaeth 24/7 erioed. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr un lefel o ofal lle bynnag y maent, a phryd bynnag y mae ei angen arnynt.

Er mwyn darparu gwasanaeth 24/7, mae angen i ni godi £8 miliwn bob blwyddyn. Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn gynnal gwasanaeth 24/7.

Mae ein gweledigaeth wedi dod yn realiti.



Wrth ystyried canfyddiadau ein dadansoddiad, bydd ein gwasanaeth yn esblygu fel a ganlyn:

 

Gwasanaeth yn Ystod y Dydd

Gwasanaeth Caernarfon – 8am i 8pm.

Gwasanaeth Y Trallwng – 8am i 8pm.

Gwasanaeth Llanelli – 7am i 7pm.

Gwasanaeth Caerdydd (Trosglwyddo Cleifion) – 7am i 7pm.

 

‘Gwasanaeth yn Ystod y Nos’

Bydd meddyg ymgynghorol, ymarferydd gofal critigol a chriw dau beilot yn gweithredu o Hofrenfa Caerdydd rhwng 7pm a 7am, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu teithio i argyfyngau ledled Cymru.