Cymorth Cleifion

Gall bod yn rhan o argyfwng meddygol neu ddamwain ddifrifol newid eich bywyd yn sylweddol. Gall fod yn anodd i'r claf a'i deulu.

Os ydych wedi derbyn triniaeth gan ein criw, ni ddaw'r cymorth i ben unwaith y byddwch wedi cyrraedd yr ysbyty.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb, neu angen siarad â rhywun, rydym yma i'ch helpu drwy gydol eich cyfnod gwella.

Caiff ein criwiau eu galw allan at gleifion sy'n ddifrifol wael neu sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol ledled Cymru. Er gwaethaf pob ymdrech, yn drist iawn, ni fydd pawb yn goroesi. Yn anffodus, mae marwolaethau ein cleifion fel arfer yn sydyn ac yn annisgwyl.

Mae colli anwylyd yn brofiad personol a thorcalonnus. Mae pawb yn delio â galar yn eu ffordd eu hunain.

 Mae ein Nyrsys Cyswllt Cleifion, Jo a Hayley, yma i gynnig cymorth i chi yn ystod y cyfnod anodd hwn. Byddant yn gwrando, yn cynnig cymorth, ac yn ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych am y driniaeth a roddwyd. Mae rhai pobl hefyd yn cael cysur o gyfarfod â'r rhai a ymdrechodd i achub bywyd eu hanwyliaid; gall Jo a Hayley eich helpu gyda hyn.

 Ni fyddwn byth yn gallu gwella'r boen rydych yn ei deimlo, ond rydym yn addo i roi cymorth a thosturi i chi mewn unrhyw ffordd y gallwn.

Os hoffech siarad ag un o'n Nyrsys Cyswllt Cleifion, gallwch ffonio 0300 300 0067 , anfon e-bost i [email protected]  neu lenwi'r ffurflen hon.