Cymorth Cleifion

Gall bod yn rhan o argyfwng meddygol neu ddamwain ddifrifol newid eich bywyd yn sylweddol. Gall fod yn anodd i'r claf a'i deulu.

Os ydych wedi derbyn triniaeth gan ein criw, ni ddaw'r cymorth i ben unwaith y byddwch wedi cyrraedd yr ysbyty.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb, neu angen siarad â rhywun, rydym yma i'ch helpu drwy gydol eich cyfnod gwella.

Os caiff ein criw eu galw allan atoch, mae'n debygol eich bod wedi profi digwyddiad sydyn a thrawmatig. Efallai nad ydych yn cofio'r digwyddiad o gwbl neu fod gennych atgofion annymunol. Mae gwella yn daith hir ac yn broses anodd, ac mae profiad pawb yn wahanol.

Mae ein  Nyrsys Cyswllt Cleifion ar gael i ateb cwestiynau a all fod gennych am y driniaeth a gawsoch a llenwi unrhyw fylchau i'ch helpu i ddeall yr hyn a ddigwyddodd.

Weithiau, gall y daith beri straen a dryswch, gan wneud i chi deimlo eich bod ar goll ac yn ansicr am yr hyn sydd o'ch blaen, rydym yma i'ch helpu wrth i chi wella.

Mae'r broses wella yn wahanol i bawb ond, yn aml, gall gymryd mwy o amser na'r disgwyl, yn gorfforol ac yn seicolegol. Dyma rai o'r problemau cyffredin; 

Mae gennym gysylltiadau agos â phob ysbyty yng Nghymru yn ogystal â rhai yn Lloegr. Mae gennym fynediad i rwydwaith o wasanaethau cymorth, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, yn ogystal â sefydliadau cymorth nad ydynt yn rhan o'r GIG y gallwn eich cyfeirio atynt. Mae gennym fynediad hefyd i amrywiaeth eang o adnoddau gwybodaeth ynglŷn ag amrywiaeth o gyflyrau ac agweddau gwahanol ar y broses wella.

Rydym yma i'ch helpu chi.