Ni allwn aros i ddechrau ar ein digwyddiad blynyddol poblogaidd, sydd yn ôl eleni eto.

Eleni, rydym yn gofyn i gyfranogwyr o bob oed gymryd rhan yn ein her 100km ym mis Mai.

Y peth gwych am yr her rithwir 'Cerdded Cymru - 100km ym mis Mai' yw y gallwch gymryd rhan unrhyw le, unrhyw bryd. Mae hefyd yn wych ar gyfer eich llesiant corfforol a meddyliol.

P'un a fyddwch yn cerdded, rhedeg, loncian neu'n cwblhau'r pellter 100km gartref byddwch yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd.

Gallwch gofrestru AM DDIM ond os codwch £100 i'r elusen, byddwch yn cael medal arbennig Cerdded Cymru 2023.

Cymerwch y cam cyntaf heddiw a chofrestrwch ar gyfer ein 100km ym mis Mai!

 

Mae dwy ffordd i chi gymryd rhan yn ein her Cerdded Cymru; yn uniongyrchol drwy Facebook neu drwy ein gwefan ein hunain.


Cofrestrwch trwy Facebook:

Yn syml, llenwch y ffurflen hon drwy Facebook i gofrestru i gymryd rhan – mae'n hawdd ac yn gyflym, a gallwch greu tudalen codi arian yn syth.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch hefyd ymuno â'n grŵp Cerdded Cymru lle gallwch glywed straeon gan gyfranogwyr eraill a rhannu eich diweddariadau eich hun.


Cofrestrwch trwy ein gwefan:

Os nad oes gennych Facebook, neu os byddai'n well gennych gofrestru ar-lein, lluniwch dudalen Just Giving a chychwyn ar eich her i godi arian.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Digwyddiadau Codi Arian, Tracey:[email protected]


*Sylwch fod yn rhaid i chi gyrraedd y targed carreg filltir fel unigolyn ac nid sefydliad er mwyn cael medal. Os byddwch yn cwblhau'r her fel sefydliad, un fedal yn unig y byddwch yn gymwys i'w chael. *