Ynghyd â’n tri hofrennydd argyfwng, mae’r Ambiwlans Awyr Cymru i Blant wrth law bob dydd i drosglwyddo babanod a phlant ifanc rhwng ysbytai.

Yn aml, mae angen lefelau arbenigol o ofal pediatreg ar y cleifion hyn, a hynny mewn ysbytai ar draws y wlad. Mae ein gwasanaeth yn helpu i arbed amser pwysig drwy drosglwyddo plant i’r gofal sydd ei angen arnynt, gan gynnwys triniaeth yn ysbyty Alder Hey yn Lerpwl, Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain ac Ysbyty Plant Cymru yng Nghaerdydd.

Mae gennym yr unig Ymarferwyr Trosglwyddo Cleifion mewn Hofrennydd dynodedig yn y DU, sy’n arbenigo yn y broses o gadw ein cleifion yn ddiogel ac yn gyfforddus yn ystod y daith. Mae pob cyrch yn cael ei hedfan gan ddau beilot medrus, sydd wedi'u hyfforddi i safon uchel.

Sut rydym yn helpu plant Cymru?

· Rydym yn trosglwyddo plant a babanod sâl i unedau arbenigol.

· Rydym yn ymateb i alwadau 999 gan ddefnyddio cyfarpar a thriniaethau i blant.

· Rydym yn cludo babanod bregus yn ein huwch-grud cynnal, sy’n eu cadw’n ddiogel ac yn gyfforddus yn ystod y daith.

· Rydym yn gweithio'n agos gydag arbenigwyr ym maes gofal newyddenedigol a phediatreg ledled Cymru, y gellir eu hedfan i achosion lle mae amser yn brin neu eu cludo gyda phlant sy’n cael eu trosglwyddo rhwng ysbytai.

· Ni sydd â’r unig Ymarferwyr Trosglwyddo Cleifion mewn Hofrennydd dynodedig yn y DU.