Cyhoeddwyd: Dydd Iau 2 Mawrth 2023

Roedd yn bleser gan Ambiwlans Awyr Cymru groesawu Eu Huchelderau Brenhinol, Tywysog a Thywysoges Cymru, i'w phencadlys yn Llanelli ddydd Mawrth.

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu Tywysog William a Thywysoges Catherine â gweithwyr brys, cefnogwyr a chyn gleifion sydd wedi cael budd o'r Elusen.

Gwnaethant hefyd agor ystafell newydd yr Elusen i gleifion a theuluoedd yn swyddogol, a gyflwynwyd er cof am y tad i ddau, Arwel Davies, a fu farw mewn damwain traffig ffordd, yn 40 oed.

Bydd yr ystafell, a gefnogwyd gan Elusen 2wish, yn cynnig ardal ddiogel, breifat a chroesawgar i deuluoedd sy'n delio â phrofedigaeth a thrawma ac fe'i cynlluniwyd gan y nyrsys cyswllt cleifion Jo Yeoman a Hayley Whitehead-Wright yn ogystal â phlant Arwel, Owen sy'n 11 oed a Sofia sy'n 8 oed, a ddewisodd beth roeddent am iddo gael ei gynnwys yn yr ystafell.

Helpodd y plant hefyd i beintio rhan gyntaf yr ystafell a thynnu lluniau o falŵns er cof am eu tad, yr oedd ganddo ddiddordeb brwd mewn balŵnio aer poeth. Mae balŵn aer poeth a gynlluniwyd yn arbennig bellach yn hongian yn yr ystafell ynghyd â llun wedi'u fframio a wnaed gan Owen er cof am ei dad.

Siaradodd y teulu Davies o Lanymddyfri â'u Huchelderau Brenhinol yn breifat yn yr ystafell cyn i Sofia gyflwyno tusw o flodau i'r Dywysoges Catherine a chyflwynodd Owen lun wedi'i fframio o un o hofrenyddion yr Elusen i'r Tywysog William.

Wrth siarad ar ôl yr ymweliad brenhinol, dywedodd Laura, gwraig Arwel, bod y teulu'n falch o allu rhannu atgofion am Arwel gyda'u Huchelderau Brenhinol a'i fod yn ddiwrnod y byddant yn ei drysori am byth.

Dywedodd Laura: “Ar ran Owen, Sofia a minnau a'r teulu Davies cyfan, hoffwn ddiolch yn fawr am ddiwrnod anhygoel, pan gawsom y fraint enfawr o ymweld â chanolfan Ambiwlans Awyr Cymru yn Llanelli, i agor yr ystafell i gleifion a theuluoedd, er cof am ein gŵr, tad, mab a brawd hoffus, Arwel.

“Roedd y diwrnod cyfan yn adlewyrchu'r cariad sydd gan bob un ohonom tuag at Arwel ac roedd yn bleser gennym rannu ein hatgoffion hoffus ohono â Thywysog a Thywysoges Cymru, ynghyd â'n hanturiaethau ym malŵn aer poeth y teulu, a'u cyflwyno i'r Ystafell i Gleifion a Theuluoedd.

“Fel teulu, byddwn bob amser yn ddiolchgar am yr amser y gwnaethant ei dreulio gyda ni, yn gwrando ar ein straeon yn llawn caredigrwydd a thrugaredd. Gwnaethant i Owen a Sofia deimlo'n arbennig iawn gan ddweud wrth y plant i “keep talking about Dadi” sy'n rhywbeth y byddwn yn sicr yn ei wneud.”

Dywedodd Laura fod y cymorth ôl-ofal a gafodd y teulu gan Nyrs Cyswllt Cleifion yr Elusen, Jo Yeoman, wedi bod o fudd enfawr. 

Dywedodd: “Mae'r cymorth rydym wedi'i gael fel teulu gan Jo wedi bod yn anhygoel ers yr adeg y cysylltodd â ni. Roedd yn arbennig iawn gallu rhannu'r diwrnod gyda Jo, ynghyd â'i chydweithiwr Hayley, a holl griw a staff Ambiwlans Awyr Cymru.

“Yr hyn sydd wedi'i greu yw ardal benodol i gleifion a'u teuluoedd i ymweld â chanolfan Ambiwlans Awyr Cymru lle cânt eu croesawu i ystafell ddiogel a chyfforddus i drafod y driniaeth a gaiff cleifion ac i gynnal cymorth ôl-ofal i'r sawl sydd ei angen.

“Mae'r ffaith bod yr Elusen wedi cynnwys Owen a Sofia o'r camau cynllunio drwodd i'r digwyddiad swyddogol i agor yr ystafell yn brosiect cyffrous i'r plant fod yn rhan ohono ac maent wedi creu atgofion am oes.

“Gobeithio y bydd yr ystafell i gleifion a theuluoedd a ysbrydolwyd gan ein colled yn dod â chysur i lawer o deuluoedd am flynyddoedd i ddod.”

Mae Tywysog Cymru wedi bod yn hyrwyddo cymorth iechyd meddwl i ymatebwyr brys ers amser maith, gan yr arferai wasanaethu fel peilot hofrennydd Ambiwlans Awyr a hofrennydd chwilio ac achub yr Awyrlu Brenhinol.

Dywedodd Jo Yeoman: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda'r teulu Davies i gynllunio'r ystafell i gleifion yn enwedig gan gynnwys y plant i gael eu meddyliau ar yr hyn oedd ei angen ar gyfer grwpiau oedran gwahanol. Aeth y diwrnod yn wych ac roeddem yn falch iawn y gellid cynnwys tad, brawd a chwaer Arwel yn y diwrnod hefyd ac roedd yn arbennig iawn cael Eu Huchelderau Brenhinol yno i agor yr ystafell yn swyddogol.”

Ychwanegodd Hayley, cydweithiwr Jo: “Roedd yn fraint cael bod yn rhan fach o'r achlysur arbennig. Mae datblygu'r ystafell i gleifion a theuluoedd yn rhywbeth y mae'r tîm ôl-ofal, staff yr elusen a'r teulu Davies wedi gweithio tuag ato ers sawl mis, gyda'r cymorth anhygoel gan 2wish. Mae gwaith caled pawb wedi talu ar ei ganfed a bydd yr ystafell yn gwasanaethu'r rheini y mae ein helusen wedi'u cyffwrdd am flynyddoedd i ddod. Roedd yn fraint enfawr gallu rhannu'r diwrnod â'u Huchelderau Brenhinol a byddwn yn cofio hyn am byth.”

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu Eu Huchelderau Brenhinol â chyn gleifion, goroeswyr ataliad y galon Alan Owen a Sian Andrews ynghyd â Richard Jones, y newidiodd ei fywyd mewn amrantiad ar ôl i ddamwain erchyll ei adael ag anafiadau ofnadwy.

Mae Alan, Sian a Richard wedi cael triniaeth gan Ambiwlans Awyr Cymru ac nid ydynt yn credu y byddent yn fyw heddiw heblaw am yr Elusen Cymru gyfan, nad yw'n cael unrhyw arian gan y llywodraeth ac sy'n gorfod dibynnu ar roddion hael i godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a'i cherbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd bob awr o'r dydd a'r nos, drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd y tad i un, Richard, 33 oed o Ddinbych y Pysgod, ei bod yn fraint iddo gael bod yn bresennol yn yr achlysur i agor yr ystafell i gleifion a theuluoedd.

Dywedodd: “Roedd Tywysog Cymru yn hawdd iawn siarad ag ef ac roedd yn amlwg bod ganddo ddiddordeb yn yr hyn a ddigwyddodd i mi a gofynnodd gwestiynau am fy nghoes brosthetig a'm proses i wella. Roedd yn wych bod yn rhan o deyrnged mor arbennig i deulu anhygoel.”

Roedd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, James Hook, sydd hefyd yn un o Genhadon Ambiwlans Awyr Cymru, yn bresennol yn yr agoriad.

Dywedodd: "Roedd yn fraint fawr. Roeddwn yn ddigon ffodus i gwrdd â theulu Arwel a siarad ag Owen a Sofia am eu cariad at rygbi. Roedd y teulu'n hyfryd ac yn groesawgar iawn i mi a'm gwraig, Kim, ynghyd â'r gwesteion eraill a staff yr elusen.

“Mae'r ystafell ei hun yn hollol wych. Mae'n syniad hyfryd a bydd yn galluogi cleifion a theuluoedd i deimlo'n ddiogel wrth siarad â'r Nyrsys Cyswllt Cleifion. Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn ac roedd yn briodol iawn bod Tywysog a Thywysoges Cymru yno. Roedd yn fraint cael gwahoddiad.”

Roedd yr ymweliad brenhinol yn cyd-fynd â'r cyhoeddiad y byddai'r Tywysog William yn dod yn Noddwr Brenhinol Elusen Ambiwlans Awyr Cymru – nawdd cyntaf y Tywysog yng Nghymru ers iddo gael teitl Tywysog Cymru.

Mae'r Elusen, a sefydlwyd ar 1 Mawrth 2001, wedi ymateb i bron 45,000 o alwadau ers iddi gael ei sefydlu.

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n fraint aruthrol i'n helusen groesawu Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru fel ein Noddwr Brenhinol. Mae gan y Tywysog brofiad ei hun o weithio o fewn amgylchedd unigryw ambiwlans awyr, sy'n aml yn heriol iawn.

“Edrychwn ymlaen at ein cydberthynas newydd â'r Tywysog wrth i'n helusen barhau i gefnogi gwasanaeth sy'n achub bywydau i bobl Cymru.”

Bydd etifeddiaeth Arwel yn parhau drwy’r ystafell hon ac yn helpu cymaint o deuluoedd eraill.