3ydd Awst 2018


Nid yr awyr yw’r terfyn i Ambiwlans Awyr Cymru wrth i’r elusen cymryd dros brydles Hofrenfa Caerdydd mewn menter newydd fydd yn helpu i godi arian ar gyfer y gwasanaeth achub bywyd.

Cafwyd y del newydd ei chadarnhau efo’r perchenogwyr, Cyngor Caerdydd a’r lesddeiliad blaenorol Hofrenfa Dinas Caerdydd ar Awst 1af. Gredwyd fod hon yw’r tro cyntaf i elusen ambiwlans awyr cymryd rheolaeth weithredol o hofrenfa masnachol.

Wedi’i leoli ar Ffordd Blaendraeth yn ardal Dremorfa'r ddinas, mae’r hofrenfa eisoes yn gartref ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymri i blant sydd yn trosglwyddo babanod a phlant bregus ar draws Cymru.

Dywed Prif Weithredwr AAC, Angela Hughes: “Mae’r elusen wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Caerdydd a’r lesddeiliad blaenorol er mwyn trosglwyddo’r brydles a’r rhedeg o ddydd i ddydd o’r safle i AAC. Gan ddilyn proses diwydrwydd dyladwy, rydym yn bles iawn i gyhoeddi mae’r broses trosglwyddo wedi’i gwblhau.

“Mae hwn yn gyfle cyffrous ac arloesol i Ambiwlans Awyr Cymru mentro ar fenter newydd a fydd yn helpu i godi arian ar gyfer ein hachos achub bywyd. Fydd pob elw a wneir o’r hofrenfa yn cefnogi ein cenhadaeth elusennol efo unrhyw ddefnydd masnachol o’r safle yn helpu i achub bywydau.

“Fydd unrhyw elw yn dod syth i’r elusen, felly unrhywun sydd yn defnyddio’r cyfleusterau arbennig yn yr Hofrenfa fel glanio neu danwydd yn gwneud hynny yn gwybod ei fod nhw yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn hedfan ar draws Cymru.”

Mae’r elusen yn dibynnu a’r rhoddion i godi’r £6.5 miliwn bob blwyddyn i gadw’r pedwar hofrennydd yn hedfan ar draws Cymru. AAC yw’r gwasanaeth ambiwlans awyr fwyaf ym Mhrydain efo tri hofrennydd argyfwng (HEMS) wedi’i leoli yn Llanelli, Caernarfon a’r Trallwng. Yn ogystal â ni mae’r elusen hefyd yn darparu hofrennydd trosglwyddo wedi’i leoli yn Hofrenfa Caerdydd.

Ychwanegodd Angela: “Mae ein hadran Ambiwlans Awyr Cymru i blant yng Nghaerdydd yn darparu gwasanaeth unigryw ar gyfer cleifion pediatrig ar draws Cymru. Mae gennym yr unig Ymarferwyr Trosglwyddo Hofrennydd yn DU sydd yn ymroddedig i symyd cleifion ieuengaf Cymru i’r gofal arbenigol sydd angen arnynt. Cafodd ein crud cynnal uwchradd ei gynllunio’n benodol ar gyfer Cymru efo mewnbwn oddi wrth nyrsiau arbenigol ac ein criw.

“Mae hyn yn bosib yn unig drwy’r rhoddion caredig rydym yn derbyn. Mae’r nifer o fusnesau a grwpiau cymunedol sydd yn ymweld â’r hofrenfa yn cynyddu, felly mae hi’n amser cyffrous i’r elusen i ddatblygu ein gwasanaeth ar y safle.”

Ddelwedd: Criw Ambiwlans Awyr Cymru i Blant sydd wedi'i leoli yn Hofrenfa Caerdydd.