27fed Chwefror 2018

Roedd EUB wedi ymweld â Phencadlys yr Elusen a chanolfan awyr De Cymru yn Nafen, Llanelli ar ddydd Gwener, 23 Chwefror ac wedi cwrdd â Meddygon, staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr Ambiwlans Awyr Cymru. 

Dywedodd Prif Weithredwr AAC Angela Hughes: “Roedd yn anrhydedd i ni groesawu Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru i Ddafen ddydd Gwener. Roedd yr ymweliad yn hynod symbolaidd gan fod EUB wedi helpu lansio’r elusen yn 2001, ac felly, roedd yn golygu cymaint i bobl i’w gael yn ôl yma 17 mlynedd yn ddiweddarach.” 

Yn ystod yr ymweliad brenhinol, roedd Tywysog Cymru wedi cwrdd â dau glaf ifanc sydd wedi eu helpu gan Ambiwlans Awyr Cymru. Curtis Thomson (sydd yn 4 mlwydd oed) ac roedd Cian Evans (sydd yn 3 mlwydd oed) wedi cyflwyno jar o fêl i Dywysog Cymru o ardal Dafen. 

Dywedodd mam Curtis, Nikki Thomson: “Roedd yn ffantastig i fod yn rhan o’r diwrnod arbennig hwn. Nid ydym yn medru diolch i Ambiwlans Awyr Cymru am yr hyn y maent wedi ei wneud ar ran Curtis. Roedd wedi mwynhau cwrdd â Thywysog Cymru yn arw a bydd yn brofiad bythgofiadwy iddo.” 

Cyn datgelu plac ac agor yr adeilad yn swyddogol, roedd Ei Uchelder Brenhinol wedi gwneud anerchiad byr yn diolch i’r staff a’r gwirfoddolwyr a’u llongyfarch ar 17 mlynedd lwyddiannus o’r elusen. 

Dywedodd Ymddiriedolwr AAC Mark James: “Roedd heddiw yn ddiwrnod arbennig iawn i ni yn Ambiwlans Awyr Cymru. Roeddwn yn cofio ymweliad cyntaf Ei Uchelder Brenhinol yn 2001. Mae gweld y cynnydd sydd wedi ei wneud yn y 17 mlynedd ddiwethaf yn anhygoel. Ni fyddem yma heddiw oni bai am help y gwirfoddolwyr, cefnogwyr a’r staff ymroddedig.” 

Ychwanegodd Angela: “Rydym yn ddiolchgar i fod yma 17 mlynedd yn ddiweddarach a hoffwn ddiolch i bobl Cymru am ein cofleidio a’n cefnogi. Rydym yn edrych ymlaen at ddyfodol llwyddiannus i Ambiwlans Awyr Cymru.”ncadlys AAC yn derbyn sêl bendith brenhinol