Mae ‘The Gathering of the Greens’ wedi codi £500 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy werthu 50 o fasgiau wyneb wedi'u gwneud â llaw ar thema ffermio. 

Grŵp o unigolion sydd â diddordeb mewn Tractorau John Deere yw ‘The Gathering of the Greens’, sy'n cynnal ei gynulliad tractorau blynyddol ar Fferm Parc Grace Dieu  ger Trefynwy, drwy garedigrwydd Fran Sutton, y deliwr Tractorau John Deere lleol.

Ers 10 mlynedd, mae'r grŵp wedi dathlu ‘popeth sy'n ymwneud â John Deere mewn arddull Gowbois go iawn’, ac er y bu'n rhaid canslo cynlluniau eleni o ganlyniad i COVID-19, daeth y grŵp o hyd i ffordd arall o godi arian sydd ei angen yn fawr ar gyfer yr elusen hofrenyddio sy'n achub bywydau.

Meddyliodd y grŵp yn greadigol am yr hyn y gallent ei wneud i gefnogi'r elusen yn ystod y pandemig presennol, gan gynhyrchu rhywbeth a fyddai'n cyfrannu at gadw pobl yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ar ddechrau'r haf, nid oedd llawer o fasgiau wyneb hardd ar gael, felly gwnaethant weithio gyda'i gilydd i greu masgiau diogel a fforddiadwy ar thema ffermio.

Cafodd y masgiau eu creu gan Lynne McLoughlin, sy'n wniyddes dalentog o Gasnewydd, ac fe'u gwerthwyd drwy'r haf. Prynwyd y masgiau gan ffrindiau ‘The Gathering of the Greens’, a ffermwyr o Sir Fynwy a thu hwnt.

Dywedodd Anna Sutton, a ddaeth o hyd i'r ffabrig o ansawdd uchel: “Mae'r gymuned ffermio bob amser yn falch o gefnogi'r ambiwlans awyr yng Nghymru, gan fod pob un ohonom yn cydnabod bod gweithio o bell yn ein caeau a'n ffermydd yn golygu efallai y bydd angen i ni ddefnyddio ei wasanaethau ryw ddiwrnod. Gyda'r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau awyr agored ac ymgynnull yn gymdeithasol eleni, roeddem hefyd yn ymwybodol bod hyn yn effeithio ar allu'r elusen i godi'r arian hanfodol sydd ei angen arni er mwyn iddi fod yn weithredol.

“Gwnaethon gynhyrchu tua 50 o fasgiau a gwerthu pob un ohonynt erbyn diwedd mis Medi, gan godi £500. Mae pobl yn hael iawn ac yn dweud yn aml eu bod yn falch iawn o gefnogi'r ambiwlans awyr. Diolch i bawb a gefnogodd yr elusen drwy brynu masgiau a oedd ar werth drwy gydol yr haf.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian De a Chanolbarth Cymru ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch i bawb fu'n rhan o ddigwyddiad blynyddol ‘The Gathering of the Greens’. Er i ddigwyddiad eleni gael ei ohirio, penderfynodd yr unigolion ddod o hyd i ffordd greadigol a diogel i godi arian i’n helusen. Mae'r masgiau'n edrych yn wych. Diolch i Anna, Lynne a phawb a brynodd fasg. Gwerthfawrogir eich haelioni yn fawr iawn.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.parcgracedieufarm.co.uk neu ewch i'r dudalen Facebook Parc Grace Dieu.