Mae Ambiwlans Awyr Cymru wrth ei bodd cael cyhoeddi ei bod wedi cael ei dewis i gael budd o'r rhoddion a gaiff eu gwneud ar y trên tir elusennol yn Nan-yr-Ogof am y pum mlynedd nesaf.

Mae'r Trên Elusennol Cyflym, wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers ei gyflwyno yn 2018. Mae'r trên, a gostiodd £200,000, yn cludo ymwelwyr rhwng y Ganolfan Ogofâu Arddangos Genedlaethol a'r ganolfan ceffylau gwedd a'r fferm yn y lleoliad ymwelwyr ym Mannau Brycheiniog.

Mae'r trên ar y tir wedi codi dros £24,000 i JDRF – elusen ymchwil diabetes math 1 ers ei gyflwyno.

Mae tocynnau i deithio ar y Trên Elusennol – sydd â lle i hyd at 50 o deithwyr – am ddim, ond caiff y teithwyr gyfle i roi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae'r trên tir yn ffefryn mawr ymysg plant ifanc yn yr ogofâu ac yn ffordd ddelfrydol o gludo pobl i fyny i'r ogofâu 'dan orchudd' o'r meysydd parcio is pan fydd yn glawio.

Mae gan Dan-yr-Ogof yrwyr medrus a all deithio o amgylch ceir sydd wedi'u parcio a rhwystrau eraill, ac maent hefyd yn rhagweld sut i dywys ei hyd anferthol rhwng y ceir sy'n dod tuag atynt.

Wrth fyfyrio ar y rheswm dros ddewis Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd Ashford Price, Cadeirydd Canolfan Ogofâu Arddangos Genedlaethol Cymru yn Nan-yr-Ogof: “Roedd ymwelydd ifanc yn yr ogofâu pan aeth i goma diabetig. Cyrhaeddodd ambiwlans awyr y lleoliad a llwyddo i'w sefydlogi er rhyddhad i'w rhieni.

“Mae cyflymder ambiwlans awyr i gyrraedd digwyddiadau wir yn achub bywydau ac mewn ardaloedd anghysbell mynyddig gall gyrraedd ardaloedd na all cerbydau eraill eu cyrraedd.”

Mae gan Dan-yr-Ogof flychau casglu hefyd yn y siop goffi ac yn un o'r llynoedd tanddaearol yn yr ogofâu maent yn gwahodd pobl i daflu darnau arian i'r dŵr i'r elusen sy'n achub bywydau.

Dathlodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei phen-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi 2022. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion brys yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein dewis fel yr Elusen i dderbyn yr holl roddion a wneir gan deithwyr sy'n defnyddio'r trên tir elusennol am y pum mlynedd nesaf. Mae hwn yn gyfle ardderchog i Ambiwlans Awyr Cymru dderbyn rhoddion gwerthfawr i gadw ein pedwar hofrenydd yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

“Gyda chymorth Dan-yr-Ogof, gallwn barhau i fod yno i bobl Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, pan fydd ein hangen arnynt fwyaf. Rydym gwerthfawrogi cymorth gan Ddan-yr-Ogof yn fawr. Maent wedi codi swm anhygoel o £24,000 i JDRF, er iddynt fod ar gau yn ystod y pandemig. Rydym yn gobeithio y bydd yr ymwelwyr yn mwynhau'r trên tir ac yn gwneud rhodd i'n helusen sy'n achub bywydau.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.