15fed Mehefin 2018

Casglwyd dros £900 i elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn Eglwys y Santes Fair Caernarfon mewn cyngerdd oedd yn pontio’r Iwerydd. Unodd Côr Meibion Caernarfon o Gymru gyda’r University of Northern Iowa Men’s Glee Club o Unol Daleithiau America i helpu’r achos da. 

Yna, nos Fawrth diwethaf 12 Mehefin, daeth Alwyn Jones, Cydlynydd Gwynedd, Ambiwlans Awyr Cymru i ymarfer wythnosol hogia Caernarfon yn Galeri, Caernarfon i ddiolch i’r ddau gôr am yr arian. 

Meddai “Roedd yr eglwys yn llawn dop a chasglwyd £913 - cyfraniad gwerthfawr tuag y £6.5 miliwn y flwyddyn yr ydym ei angen i gadw ein pedair hofrennydd yn hedfan ym mhob rhan o Gymru.”

Ychwanegodd, “Cafwyd perfformiadau rhagorol gan y ddau gôr. Gorffennwyd trwy iddynt gydganu’r emyn Cwm Rhondda, hefo’r myfyrwyr Americanaidd wedi dysgu geiriau’r pennill cyntaf yn y Gymraeg.”

Meddai Alwynne T Jones, Cadeirydd Côr Meibion Caernarfon, “Wrth drefnu cyngherddau, rydym yn awyddus i gefnogi elusennau lleol. Cytunodd ein cyd gantorion, yr University of Northern Iowa Men’s Glee Club, ar unwaith â’n hawgrym y dylid trosglwyddo holl elw’r cyngerdd i Ambiwlans Awyr Cymru.”

Ychwanegodd, “Mae’r Ambiwlans Awyr yn achos agos iawn at ein calon gan fod dau aelod o Gôr Meibion Caernarfon yn gwybod o brofiad personol mor dda yw gwasanaeth yr hofrenyddion coch.”