Mae tîm o gyn-filwyr wedi codi dros £6,000 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl her barhaus yn dringo'r Wyddfa cymaint o weithiau â phosibl mewn 24 awr.

Gwnaeth Paul Jones, Stephen Robinson, Martin Topps ac Ymarferydd Gofal Critigol Ambiwlans Awyr Cymru, Carl Hudson, gwblhau'r her ar adeg poethaf yr haf yng Nghymru.

Cyn hynny, cafodd digwyddiad codi arian arbennig ei gynnal yng Nghlwb Golff Rhosneigr a oedd yn cynnwys ocsiwn a diwrnod ar y grîn.

Wrth siarad am yr her, dywedodd yr Ymarferydd Gofal Critigol, Carl Hudson: "Roedd yr her hon yn ffordd berffaith i ni gyfuno ein diddordeb brwd mewn cerdded â'n brwdfrydedd tuag at godi arian i'r Elusen. Mae un daith i fyny ac i lawr yr Wyddfa yn ddigon i gerddwr cymharol brofiadol felly roedd ei ddringo cymaint o weithiau â phosibl mewn 24 awr yn profi ffitrwydd pob un ohonom.

"Rydym yn falch iawn o fod wedi cwblhau'r her a chodi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ac ymwybyddiaeth ohoni. Fel meddyg sy'n gweithio yn Helimed61 yng Nghaernarfon, rwy'n aml yn trin clieifon sy'n ddifrifol wael mewn corneli anghysbell o'r parc cenedlaethol felly gallaf werthfawrogi sut y bydd yr arian rydym wedi'i godi yn ein helpu i barhau i achub bywydau".

Yn dilyn digwyddiad codi arian llwyddiannus yn y clwb golff a chwblhau'r her, cafodd £6,146.40 ei godi ar gyfer yr Elusen hofrenyddion.

Dywedodd cydlynydd cymuned Ambiwlans Awyr Cymru, Sian Davies:  "Rydym yn falch iawn o'r hyn y mae'r pedwar ohonynt wedi'i gyflawni ac fe aiff eu haelioni yn bell. Hoffem ddiolch hefyd i Lywydd Clwb Golff Rhosneigr, Dr Pauline Rigby, a roddodd groeso cynnes i'n cefnogwyr yn ystod y digwyddiad codi arian.

"Gan fod pob taith yn costio £1,500 ar gyfartaledd, bydd y swm anhygoel hwn o arian yn sicrhau y gallwn barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf."