Mae tîm Rygbi'r Undeb Dynion Prifysgol Aberystwyth wedi codi swm anhygoel o £4,944 ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl cwblhau ‘her anoddaf eu bywydau’.

Yr wythnos diwethaf, wynebodd 32 o aelodau o'r tîm rygbi yr her o gwblhau marathon dros 24 awr. Fel rhan o'r gweithgaredd codi arian, rhedodd y dynion dros 3 milltir yn yr awr gyntaf, ac yna un milltir bob awr am y 23 awr oedd yn weddill.

Wrth siarad ar ôl cwblhau'r her, dywedodd capten y tîm cyntaf Tudor Roderick: “Roedd y marathon yn llwyddiant ysgubol gyda bron pawb yn cwblhau'r her. Roedd yr her lawer yn anoddach na'r disgwyl, ac roedd y diffyg cwsg yn cael effaith arnom erbyn diwedd y dydd.

“Erbyn toc wedi 11pm, roeddem wrth ein boddau ein bod wedi cwblhau her anoddaf ein bywydau. Fel clwb, gwnaethom redeg neu gerdded 786 o filltiroedd drwy'r cyfnod o 24 awr.

“Yn bwysicaf oll, rydym bellach wedi codi £4,800 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n gyflawniad gwych, ac rwy'n falch iawn o ymdrechion y bechgyn!”

Oherwydd cyfyngiadau teithio COVID-19, cynhaliwyd y digwyddiad yn rhithwir, gydag un aelod o'r tîm yn cwblhau ei farathon yn Ynys Manaw ac un arall yn cymryd rhan yn Sbaen. Cwblhaodd gweddill y tîm y digwyddiad o amgylch Aberystwyth.

Wrth feddwl am y rheswm pam roeddent am godi arian ar gyfer yr elusen hon sy'n achub bywydau, dywedodd Tudor: "Fel clwb roeddem yn teimlo ei bod hi'n elusen ardderchog sydd yn aml yn cael ei defnyddio pan fydd anafiadau rygbi difrifol.Mae'r gwasanaeth yn hynod bwysig a hebddo byddai llawer mwy o anafiadau gwledig yn arwain at farwolaethau, yn enwedig mewn rhannau anghysbell o Gymru.”

Dywedodd Dougie Bancroft, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn yr her enfawr hon er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r ffaith eich bod wedi llwyddo i godi dros £4,800 yn anhygoel ac mae'r rhoddion yn adlewyrchu dyfalbarhad y dynion yn ystod y 24 awr i gwblhau ‘her anoddaf eu bywydau’. 

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth 24/7 erbyn hyn ac mae angen iddo godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr. Mae tîm Rygbi'r Undeb Dynion Prifysgol Aberystwyth yn helpu i achub bywydau ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn!”

Mae gennych amser o hyd i ddangos eich cefnogaeth i'r dynion drwy eu noddi drwy eu tudalen Just Giving - Aberystwyth Men's Rugby Union 24hour Marathon.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.