9th May 2018

Roedd Ebrill 8, 2016 wedi dechrau fel unrhyw ddiwrnod arall i Theresa Emmett. Tra yng nghartref y teulu yng Nghwmafan, ger Port Talbot, dechreuodd Theresa deimlo yn sâl.

Dywedodd Theresa: “Dechreuais deimlo boen angheuol yng nghefn fy ngwddf. Roedd fy ngŵr, Wayne, wedi ffonio’r llinell gymorth ar gyfer achosion na sydd yn argyfyngau, ac yn ystod yr alwad, mi wnes i ddisgyn yn anymwybodol.”

Sylweddolodd y person ar y ffôn fod cyflwr Theresa wedi gwaethygu a ffoniwyd am ambiwlans.

Mae Wayne yn olrhain y profiad ofnus: “Rwy’n cofio’r ambiwlans yn cyrraedd yn gyflym iawn ac yna’r Ambiwlans Awyr Cymru yn glanio ger y cae gerllaw. Roedd criw'r ambiwlans traddodiadol wedi helpu i gludo Theresa i’r hofrennydd lle y bu meddygon yn gweithio arni’n ddiwyd ar ochr yr heol.”

Cludwyd Theresa yn yr hofrennydd o Gwmafan i Brifysgol Cymru yng Nghaerdydd lle’r oedd tîm o arbenigwyr yn aros amdani. Mae mab Theresa, Tyrone, yn olrhain y profiad: “Roeddwn wedi gyrru fy nhad, brawd a chwaer i’r ysbyty lle yr aethpwyd â ni i’r ystafell ar gyfer perthnasau. Roedd yn brofiad swreal. Roeddem yn aros yno am gyfnod a oedd yn teimlo fel oriau cyn i ymgynghorydd ddod i siarad gyda ni.

“Roedd mam wedi dioddef gwaedlif subarachnoid gradd 5 ar ei hymennydd, y math mwyaf difrifol. Roedd yn gyfnod dychrynllyd iawn i ni fel teulu gan fod ond siawns o 4% ganddi o oroesi.

Er hyn, brwydrodd mam gan ddihuno ar ôl treulio chwe diwrnod mewn coma ar y ward Gofal Critigol. Pan ddihunodd mam, nid oedd yn medru teimlo dim byd ar ochr chwith ei chorff ac nid oedd yn medru symud o’r gwely.”

Wedi treulio sawl wythnos yn gwella yn Ysbyty Prifysgol Cymru, cludwyd Theresa i’r ysbyty lleol ym Mhort Talbot ble y bu’n rhaid iddi gael helpu i ddysgu cerdded eto.

Yng Ngorffennaf 2016, 3 mis ar ôl ddioddef gwaedlif, roedd Theresa wedi gadael yr ysbyty.

Ychwanegodd Tyrone: “Ar ôl ffisiotherapi dwys, mae Mam wedi dysgu cerdded unwaith eto ac yn gwella’n dda. Mae dal yn defnyddio ffon gerdded ond yn fwy pwysig na dim, mae wedi goroesi’r gwaedlif difrifol hwn ar ei hymennydd.”

Ers gwella, mae Theresa wedi bod yn ddigon da i fynd ar wyliau i Ffrainc a mwynhau seibiant haeddiannol yn Lanzarote gyda’i gŵr Wayne.

Dywedodd Tyrone: “Rydym mor ddyledus i bawb sydd wedi helpu mam, yn enwedig Ambiwlans Awyr Cymru am drin mam a’i chludo i’r help arbenigol yr oedd angen arni mor gyflym. Roedd hyn yn sicr wedi achub ei bywyd. Byddwn yn fythol ddiolchgar i’r criw.”

Yn 2018, roedd Wayne a Theresa wedi dathlu eu Pen-blwydd Priodas Aur, gan gynnal parti yn y clwb cymdeithasol lleol. Yn ystod y dathliad, roedd y teulu wedi casglu £200 i’r elusen hofrennydd.

Dywedodd rheolwr codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae’n wych i weld fod Theresa wedi gwella gystal ar ôl dioddef cymaint. Hoffem ddiolch iddi hi a’i theulu am eu rhodd garedig. Bydd yr arian y maent wedi casglu yn helpu ariannu gwaith achub bywyd ar draws Cymru.”

Ychwanegodd Theresa: “Yn sicr, ni fyddem yma heddiw oni bai am y staff meddygol anhygoel a oedd wedi achub fy mywyd. Mi fyddaf yn fythol ddiolchgar iddynt .”