Mae teulu o Sir Benfro wedi codi mwy na £1,000 ar gyfer dau wasanaeth sy'n achub bywydau ar ôl i feddygon achub bywyd ei fab 16 oed.

Ym mis Awst, cafodd y gwasanaethau brys eu galw i barc sglefrio yn Aberdaugleddau ar ôl i Bradley Turner gael cwymp cas.

Galwyd Ambiwlans Awyr Cymru i'r digwyddiad ac, ar ôl rhoi triniaeth, rhoddodd y meddygon sy'n hedfan Bradley i gysgu er mwyn diogelu ei ymennydd. Yna, gwnaethant ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Roedd y meddyg ymgynghorol, Dr James Chinery, a'r ymarferydd gofal critigol, Kate Owen, yn yr hofrennydd y diwrnod hwnnw.

Mae'r teulu'n codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ddiolch am achub bywyd Bradley.

Roedd ei fam, Kez, a'i chwaer, Chloe, mewn sioc ar ôl cyrraedd y parc sglefrio. Dywedodd Kez: “Os na fyddai'r gwasanaethau hyn wedi cyrraedd mor gyflym a gweithredu, dydw i ddim yn credu y byddai'n fyw heddiw. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt, felly rydym yn codi arian i'r ddau er mwyn dangos ein gwerthfawrogiad a helpu i achub bywydau pobl eraill.”

Mae Kez yn cynnal raffl ag amrywiaeth o wobrau a roddwyd gan fusnesau lleol, sydd eisoes wedi gwerthu 270 o docynnau. Bydd y raffl yn cael ei dynnu yn fyw ar Facebook ddydd Gwener 27 Tachwedd.

Mae ffrindiau a theulu hefyd wedi cynnal eu digwyddiadau eu hunain ac wedi helpu i gasglu rhoddion tuag at yr ymdrech codi arian.

Dywedodd Bradley: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn agos iawn at fy nghalon gan fod y gwasanaeth wedi achub fy mywyd ar 29 Awst, pan gefais gwymp cas. Rwyf wedi gwella'n dda iawn ac rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith bod y gwasanaethau anhygoel hyn ar gael i ni.”

Hoffai'r teulu ddiolch i bawb sydd wedi rhoi gwobr neu sydd wedi rhoi arian tuag at yr ymdrech codi arian.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian yr Elusen ar gyfer De Cymru: “Rydym yn falch clywed bod Bradley yn well ar ôl ei gwymp a'n bod wedi gallu helpu. O ystyried mai dim ond ym mis Awst y digwyddodd y gwymp, mae'r ymdrech i godi arian a'r hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni yn anhygoel. Diolch yn fawr iawn i'r teulu a phawb sy'n eu cefnogi. Mae ein gwasanaeth ond yn bodoli o ganlyniad i haelioni fel hyn.”

Yn y dyfodol, mae'r teulu'n gobeithio dringo Pen y Fan er budd elusen.

Wrth siarad am yr ymateb gan ffrindiau a theulu i'r ymdrech codi arian, meddai Kez: “Hyd yn hyn, mae'r rhai hynny sydd wedi cyfrannu at y raffl neu sydd wedi rhoi arian yn falch iawn i'n cefnogi a'n helpu i godi arian i gadw'r hofrenyddion hyn yn yr awyr. Mae ein hambiwlans awyr agosaf yn Llanelli, sy'n dibynnu ar arian cyhoeddus - mae angen i ni sicrhau bod ein gwasanaethau ambiwlans yn parhau i weithredu hefyd.”

Yn y Flwyddyn Newydd, mae'r teulu yn gobeithio y gall Bradley gyflwyno'r arian i'r ddau achos yn bersonol.

Gallwch roi arian drwy dudalen Go Fund Me Bradley: ‘Fundraising for air ambulances & ambulances’.