01/06/2020

Mae bachgen chwe blwydd oed o Wrecsam wedi codi £1,318 ar gyfer tair elusen, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru, ar ôl beicio 15.2 o filltiroedd.

Er nad yw ond yn blentyn ifanc, roedd Ieuan Thomas (disgybl yn Ysgol Gynradd Gymunedol y Parc) yn gallu gweld yr effaith sylweddol y mae pandemig y coronafirws yn ei chael ar yr Elusen ar hyn o bryd, ac roedd am wneud rhywbeth i helpu.

Cafodd gryn sylw am ei ymdrechion, gyda phobl yn ymgynnull ar y strydoedd i'w gefnogi, gan gadw pellter cymdeithasol. Dechreuodd ei daith o'i gartref yn Llai a seiclodd i gopa Mynydd yr Hob, sy'n sefyll 330 o fetrau uwchlaw lefel y môr, cyn dychwelyd am adref.

Roedd Ieuan yn edrych ymlaen yn arw at gyflawni ei her er budd Ambiwlans Awyr Cymru, Hope House and Nightingale Hospice. Dywedodd ei Dad-cu, Nick Povey, yn llawn balchder: “Roedd wedi mwynhau'r diwrnod mas draw gyda'r holl gefnogaeth a gafodd.  Roedd y bryniau olaf yn anodd, gan ei fod wedi blino braidd erbyn hynny, ond roedd yn hapus iawn ei fod wedi llwyddo i gwblhau'r daith a chodi'r arian.”

Roedd cymryd rhan yn y daith feic noddedig yn ymdrech deuluol. Gwnaeth Ella, chwaer Ieuan sy'n ddwy oed, hefyd reidio ei beic ar gyfer rhan gyntaf y daith drwy Barc Gwledig Alyn Waters. Cymerodd yr her bum awr i Ieuan a'i dad, Alan, ei chwblhau, a llwyddodd i feicio ymhellach na'i darged gwreiddiol, sef 14 milltir.

Gan sôn am ymdrechion ei ŵyr, dywedodd Nick: “Yn gyntaf, hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi noddi Ieuan hyd yma. Mae wedi llwyddo i ragori ar ei darged o £600, a'r cyfanswm yw £1,318 ar hyn o bryd – mae ar ben ei ddigon. Gwnaeth yn wych yn y diwedd, ac roedd wrth ei fodd i weld yr holl bobl a oedd yno i'w gymeradwyo wrth iddo orffen. Rydyn ni fel teulu yn falch iawn o Ieuan, yn enwedig am iddo benderfynu gwneud hyn ei hun.” 

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Gogledd Cymru ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru:  “Byddai seiclo dros 15 o filltiroedd yn brofiad blinedig i’r rhan fwyaf o oedolion, felly mae hyn yn gwneud cyflawniad Ieuan yn fwy arbennig fyth. Mae deall pwysigrwydd yr hyn rydym yn ei wneud fel elusen a chydymdeimlo â'n heriau codi arian, ac yntau mor ifanc, yn anhygoel. Bydd cyfraniad Ieuan, Ella a'r teulu cyfan yn achub bywydau pobl. Rwy'n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth.”

Os hoffech gefnogi ymdrechion Ieuan a'i deulu, gallwch gyfrannu drwy fynd i'w dudalen Virgin Money Giving yma.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref – fel Ieuan. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.