Tad i ddau yn talu teyrnged i'w ddiweddar wraig er budd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru Mae Jordan Phillips o'r Tymbl wedi odi arian er cof am ei wraig, a oedd "bob amser yn gwenu, yn garedig ac mor wych", a fu farw ym mis Mai y llynedd. Ynghyd ag 20 o aelodau o'i deulu a'i ffrindiau, wynebodd Jordan y Carten 100, sef gweithgaredd sy'n cynnwys beicio o Gaerdydd i Ddinbych y Pysgod. Gyda'i gilydd, aeth y tîm ar gefn eu beiciau ac maent wedi codi dros £5,000 ar gyfer yr Elusen Cymru gyfan. Dywedodd Jordan: "Gwnaethom feicio er cof am Jamie-Lee, fy niweddar bartner a fu farw'n sydyn fis Mai y llynedd. Roeddem wedi bod â'n gilydd am 15 o flynyddoedd, ac roedd hwyl bob amser i'w chael yn ei chwmni. "Gallwch ofyn i unrhyw un yn y gymuned, roedd Jamie-Lee bob amser yn gwenu, yn garedig, ac mor wych. Daeth yr ambiwlans awyr ati i'w helpu, ond yn anffodus, bu farw'n ddiweddarach yn yr ysbyty." Ychwanegodd: "Roedd y meddyg a'r tîm ar ddyletswydd yn yr hofrennydd yn ardderchog. Gwnaethant wneud Jamie-Lee yn gyfforddus, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt. Mae'n un o'r rhesymau pam rydym yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'n anodd coelio eu bod nhw'n hunan-ariannu." Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen. Gosododd tîm 100 Carten Jordan darged codi arian o £2,500, ond maent wedi dyblu’r swm gan godi £5,513. Dywedodd: "Mae gennym grŵp anhygoel; daethant ynghyd a chwblhau tua 100 milltir pob wythnos er mwyn paratoi ar gyfer yr her. "Cawsom ein cymell gan yr holl roddion a ddaeth gan bawb ymlaen llaw." Bu angen cymorth yr ambiwlans awyr ar Jordan hefyd, sy'n rheolwr cynorthwyol yn LBS Builder’s Merchants yn Llandeilo. Dywedodd: "Rydym yn ddiolchgar iawn i'r ambiwlans awyr; roedd angen y gwasanaeth arna i hefyd ar ôl damwain wrth gymryd rhan mewn taith gerdded elusennol i fyny Pen y Fan. "Torrais fy mhigwrn; daeth y gwasanaethau achub mynydd i fy helpu, a chefais fy nghario at yr ambiwlans awyr lle cefais driniaeth ganddynt, cyn cael fy nghludo i Ysbyty Treforys." "Dywedodd y meddyg wrthyf, oni bai am y driniaeth a dderbyniais ar leoliad, gallwn fod wedi colli fy nhroed. Byddai hynny wedi newid fy mywyd. Dyna pam hoffwn roi rhywbeth yn ôl a chefnogi'r gwasanaeth." Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei fflyd o hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae Jordan eisoes yn cynllunio i gynnal mwy o ddigwyddiadau codi arian er cof am ei ddiweddar wraig er budd yr elusen sy'n agos at ei galon. Bydd yn chwarae i Glwb Rygbi Y Tymbl yn achlysurol, a dywedodd: "Byddaf yn chwarae mewn ambell gêm ar gyfer Clwb Rygbi Y Tymbl, yn bennaf er budd yr elusen oherwydd fy mhigwrn. Rydym wedi cynnal un gêm hyd yn hyn er cof am Jamie-Lee, ac rydym wrthi'n cynllunio ein gem flynyddol yn erbyn ein prif wrthwynebwyr, Pontyberem, a chaiff y digwyddiad ei alw'n Gwpan Coffa Jamie-Lee." Ychwanegodd: "Bydd faint bynnag byddwn yn ei godi wrth y giât yn cael ei roi i Ambiwlans Awyr Cymru. Llwyddodd gêm y llynedd godi dros £2,000 ac rydym yn gobeithio gallu gwneud hynny pob blwyddyn." Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: "Roeddem yn ddigalon iawn ar ôl clywed am Jamie-Lee ac rydym yn cydymdeimlo a'i theulu a'i ffrindiau. Mae'n amhosibl dychmygu'r boen a'r tristwch a deimlir gan y teulu. Rydym yn hynod ddiolchgar i Jordan am ddewis talu teyrnged i Jamie-Lee a chreu gwaddol drwy gefnogi ein helusen. "Hoffem ddiolch i Jordan, ac i bawb sydd wedi helpu i godi cymaint o arian ar gyfer ein helusen dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys LBS Builder's Merchants a Chlwb Rygbi Y Tymbl. “Bydd eich rhoddion yn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr ac yn cadw cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd.” Manage Cookie Preferences