Mae tad i dri o blant o Bwllheli yn bwriadu rhedeg Hanner Marathon Abertawe fis nesaf er budd yr elusen a helpodd i achub ei fywyd.

Bydd Steve Lewis hefyd yn cael cwmni ei ferch Jamie, 22, wrth iddo ymgymryd â'r her o redeg 13.1 milltir fel rhan o Hanner Marathon Abertawe JCP ar 17 Hydref.

Ddwy flynedd yn ôl, roedd Steve wrth ei waith mewn siop feicio pan ddechreuodd feddwl ei fod yn cychwyn dioddef pwl o banig. Ar ôl iddo lewygu yn y gwaith, cafodd ei ruthro i'r ysbyty gan ei wraig, lle daeth yn amlwg ei fod yn dioddef o drawiad ar y galon STEMI.

Roedd amser yn y fantol, a hedfanwyd Steve i Ysbyty Glan Clwyd lle'r oedd tîm o feddygon yn disgwyl amdano er mwyn rhoi llawdriniaeth iddo.

Mae trawiad ar y galon STEMI yn un o'r rhai mwyaf difrifol, pan fydd y rhydweli coronaidd wedi blocio gan arwain at doriad hir mewn cyflenwad gwaed i'r galon.

Ychwanegodd Steve: "Cafodd dau stent eu gosod yn fy rhydweli dde. Cael a chael oedd hi. Petawn i wedi gwneud y siwrne mewn ambiwlans arferol, ni fyddwn i wedi byw; roedd y Cardiolegyddion a'r Staff yng Nglan Clwyd yn sicr o hyn.

"Ar ôl trawiad ar y galon STEMI fel fy un i, a gaiff hefyd ei alw yn 'widow maker', sicrhaodd y ffaith bod Ambiwlans Awyr Cymru wedi gallu cyrraedd ataf mor gyflym a fy nghludo i'r ysbyty mor gyflym bod unrhyw greithio i'm calon yn cael ei gadw i leiafswm, sydd wedi fy ngalluogi i redeg y marathon! Gallai fod wedi bod yn llawer iawn gwaeth."

Mae ffrindiau a theulu Steve a Jamie wedi bod yn gefnogol iawn wrth iddynt godi arian. Er na wnaeth Steve ddechrau paratoi o ddifrif tan fis diwethaf gan ei fod yn ansicr a fyddai'r digwyddiad yn mynd yn ei flaen, llwyddodd i redeg 75 milltir mewn 16 sesiwn yn ystod y mis, gan dreulio deg awr a hanner ar beiriant rhedeg.

Mae wedi bod yn cynyddu'r milltiroedd y mis yma, a hyd yn hyn mae wedi rhedeg 41 o filltiroedd mewn pum sesiwn.

Ychwanegodd Steve, sydd hefyd yn daid i Mabli, merch Jamie: "Cychwynnais hyfforddi o ddifrif ar y cyntaf o Awst, ond cyn gynted ag yr oeddwn yn sicr y byddai'r digwyddiad yn mynd yn ei flaen, glanheuais y gwe pry cop oddi ar y peiriant rhedeg a mynd ati o ddifrif! Rhedais 15.11 milltir yn ystod fy sesiwn hiraf ar y peiriant rhedeg mewn 2 awr a 6 munud. O fewn y sesiwn honno, llwyddais i gwblhau pellter hanner marathon mewn 1 awr a 47 munud - felly rwy'n hyderus na fyddaf yn dioddef trawiad arall ac yn hapus iawn o allu rhedeg.

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.       

Gan fyfyrio ar bwysigrwydd y gwasanaeth 24/7 a achubodd ei fywyd, meddai Steve: "Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn hanfodol bwysig i bob un ohonom. Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd gwledig a gwasgaredig, ac mae'r ffyrdd yn brysur iawn yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Heb Ambiwlans Awyr Cymru byddai ein cyfradd marwoldeb yn llawer uwch.

“Ni allaf ddiolch ddigon iddynt. Ganwyd fy wyres fis ar ôl i mi gael y trawiad ar y galon. Allen i ddim dychmygu peidio â chael y cyfle i'w chyfarfod oni bai amdanyn nhw."

Dywedodd Louise Courtnage, swyddog codi arian cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru: "Diolch yn fawr i Steve a Jamie a fydd yn rhedeg Hanner Marathon Abertawe er budd yr elusen fis nesaf. Mae stori Steve yn dangos fod amser yn hynod bwysig a heb ein gwasanaeth sy'n achub bywydau, ni fyddai yma heddiw. Mae mor ysbrydoledig i glywed ei fod wedi gwella'n dda a'i fod yn codi arian i elusen sy'n agos at ei galon.  Maent eisoes wedi cyrraedd eu targed o £200 gan godi £460 hyd yma. Pob lwc i'r ddau ohonoch."

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Steve a Jamie drwy roi arian drwy eu tudalen Just Giving Steve Lewis - STOZZEY

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.