Bydd staff Ysbyty Athrofaol Cymru yn ymgymryd â her hwylio'r penwythnos nesaf (18 Mehefin) dros Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae tîm y Meddyg Ymgynghorol, Richard Penketh, yn cynnwys cydweithwyr o'r adran Obstetreg a Gynecoleg a'i deulu. Enwau aelodau'r tîm a fydd yn hwylio yn Ras Elusennol Eddystone ar gwch hwylio ‘Moondust’ Richard yw Tony Griffiths, Angharad Jones a John Penketh.

Mae gan Ras Elusennol Eddystone gronfa wobrau fawr y mae criwiau'n cystadlu ynddi er mwyn ennill arian i'r elusen o'u dewis. Nod y tîm yw codi £10,000 i'r elusen achub bywydau ac mae eisoes wedi codi £1,100.

Goleudy sydd 13 milltir o Plymouth yw Eddystone Rock ac mae'r ras yn dechrau ac yn gorffen yn Plymouth gan deithio 26 o filltiroedd.

Dywedodd Richard: “Mae fy nhîm a minnau yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Caiff yr elusen ei hariannu gan bobl Cymru ac mae angen £8 miliwn y flwyddyn arni i gadw ei phedwar hofrennydd yn yr awyr, gwasanaethu Cymru ac achub bywydau.  Gall yr elusen fod unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud, ac mae ei meddygon yn hedfan yr Adran Damweiniau ac Argyfwng i'r claf.”

Mae cwch hwylio ‘Moondust’ Richard wedi cystadlu sawl gwaith yn y digwyddiad dros y blynyddoedd. Enillodd y wobr am yr aelod criw benywaidd ieuengaf ddwywaith a chyrhaeddodd yr ail safle cyffredinol yn 2019. Mae'r cwch hwylio 40 troedfedd wedi'i leoli yn Dartmouth.

Ychwanegodd Richard: “Rydym yn cystadlu am dlws Smeaton eleni sy'n gofyn bod tri aelod o'r tîm yn dod o'r un sefydliad - Ysbyty Athrofaol Cymru - yn ein hachos ni.  Rydym yn gobeithio codi cryn dipyn o arian cyn y digwyddiad er mwyn ein helpu ni i ennill cyfran dda o'r gronfa wobrau i Ambiwlans Awyr Cymru a gwneud cyfraniad sylweddol tuag at yr £8 miliwn y flwyddyn angenrheidiol.

Mae'r cychod sy'n cymryd rhan yn sgorio pwyntiau drwy gofrestru'n gynnar i godi arian i'w helusen henwebedig ac yn olaf, sut maent yn gwneud yn y digwyddiad.

Dywedodd Richard: “Mae'n bwysig iawn ein bod yn codi llawer o arian i'r elusen ond hefyd ein bod yn hwylio'n dda yn y digwyddiad. Mae gan bob cwch handicap lle bydd y cychod mwyaf araf yn dechrau'n gyntaf ac o dan amodau delfrydol, dylai'r holl gychod orffen gyda'i gilydd.

Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion brys yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae'r gwasanaeth brys 24/7 yn cynnig gofal critigol uwch a gaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. 

Dywedodd Laura Coyne, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Pob lwc i Richard a'i dîm gyda'u hymgyrch hwylio i godi arian.  Rydym wrth ein boddau bod Ambiwlans Awyr Cymru wedi cael ei ddewis i elwa ar eu digwyddiad codi arian yn Ras Elusennol Eddystone ac mae'r tîm yn gobeithio codi swm anhygoel o £10,000. Gobeithio y bydd pawb yn dangos eu cefnogaeth i Richard, Tony, Angharad a John gyda'u hymdrechion i godi arian. Bydd ymdrechion codi arian fel y rhain yn ein helpu i barhau i wasanaethu pobl Cymru drwy'r dydd a'r nos. Diolch i bob un ohonoch.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Richard a'i dîm drwy roi arian drwy eu tudalen Just Giving.

Ysbyty Athrofaol Cymru. Ras Elusennol Eddystone yr Adran Obstetreg a Gynecoleg.I gael rhagor o wybodaeth am 21ain flwyddyn Ras Elusennol Eddystone, ewch i www.eddystonepursuit.com