Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi agor ei hwb manwerthu a chymunedol yng nghanol Caernarfon.

Agorodd Siop Ambiwlans Awyr Cymru, sydd wedi'i lleoli yn hen safle Argos ym Mhenllyn yn y dref, ei drysau ddydd Mercher 30 Tachwedd.

Roedd gan Ambiwlans Awyr Cymru siop ar y Stryd Fawr yn flaenorol, ond bydd y lleoliad newydd yn rhoi mwy le i eitemau ail law yn ogystal â mwy o le storio.

Y siop hon yw'r hwb manwerthu cymunedol cyntaf yng Nghymru ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau a'r cyntaf i fod yn arddangos brand newydd Ambiwlans Awyr Cymru. Nid yn unig mae'n cynnig dillad sydd wedi cael eu gwisgo a deunydd tai ond mae hefyd yn cynnig dodrefn. Bydd bar coffi, sydd wedi'i leoli yn y siop, yn agor yn y Flwyddyn Newydd.

Gan ei bod yn hawdd mynd iddi, daw’n ganolfan rhoddion cyhoeddus, gyda chyfleusterau storio a mynediad i gerbydau a fydd yn caniatáu iddi wasanaethu siopau Ambiwlans Awyr Cymru eraill ym Mangor a Thywyn.

Mae hefyd wedi creu cyfleoedd cyflogi newydd fel rôl rheolwr cynorthwyol a safleoedd gweithredwr trafnidiaeth ychwanegol.

Mae pob siop Ambiwlans Awyr Cymru yn ffynhonnell allweddol o incwm sy'n helpu'r Elusen i gyrraedd ei tharged blynyddol o £8 miliwn i gynnal y gwasanaeth achub bywydau.

Dywedodd David Williams, Rheolwr y Siop Elusen yng Nghaernarfon, fod y siop eisoes wedi cael ymateb cadarnhaol yn y gymuned.

Dywedodd: “Aeth diwrnod agor y siop yn dda iawn, ac roedd yr wythnos gyntaf yn hynod brysur. Mae ein cwsmeriaid wedi bod yn canmol y siop ac mae nifer o bobl yn edrych mlaen at yr adeg y bydd y caffi newydd yn agor. Mae'r dodrefn wedi gwerthu'n arbennig dda, ochr yn ochr â'r eitemau a'r cardiau Nadolig.

“Mae hwn yn fuddsoddiad cyffrous i'n helusen ac i gymuned Caernarfon a thu hwnt. Bydd yr adeilad mwy o faint yn ein galluogi i dderbyn a gwerthu eitemau mwy, megis dodrefn. A gallwn groesawu ein cefnogwyr, gwirfoddolwyr a'r gymuned ehangach a fydd yn gallu cyfarfod yn ein gofodau cymunedol.

“Yn bwysicaf oll, bydd y cyfleuster yn chwarae rôl allweddol yn codi'r arian sydd ei wir angen arnom i gynnal ein gwasanaeth sy'n achub bywydau.” 

Mae'r gwasanaeth brys 24/7 yn cynnig gofal critigol uwch a gaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. 

Cafodd tref Caernarfon ei dewis fel y lleoliad cyntaf yng Nghymru i'w ddatblygu fel rhan o gynllun manwerthu newydd yr Elusen.

Dywedodd Rob Coles, Pennaeth Manwerthu Ambiwlans Awyr Cymru: “Yn unol â'r cynllun manwerthu, nodwyd bod angen sefydlu Siop Hwb yng Ngogledd-orllewin Cymru. Roedd Caernarfon yn lleoliad rhesymegol ar gyfer y fath fuddsoddiad, o ystyried ein cysylltiad hanesyddol â'r dref a'n rhwydwaith sefydledig o wirfoddolwyr.

“Roedd angen safle arnom a fyddai'n gallu derbyn a storio nwyddau a gaiff eu rhoi, gan gynnwys eitemau mawr fel dodrefn, a bod cerbyd yn gallu cael mynediad ato. Y casgliad rhesymegol felly oedd ceisio am safle amgen yng Nghaernarfon, a'n galluogodd ni i greu siop Hwb. Roedd diogelu'r safle hwn yn hanfodol a bydd yn ein galluogi i ddatblygu ein presenoldeb cymunedol yng Ngogledd-orllewin Cymru ymhellach.

“Ein nod yw y bydd y safle hwn yn ganolbwynt i Ambiwlans Awyr Cymru yn y rhanbarth ac yn lle i bawb ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd.

“Mae'r siop wedi cael ymateb cadarnhaol. Mae'n wych buddsoddi mewn tref sydd mor gefnogol i ni.”

Bydd y siop newydd yn dibynnu ar roddion o eitemau ail law gan y cyhoedd i lenwi ei silffoedd a bydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9.30am a 4.30pm.