Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn agor y drysau i’w siop newydd yn yr Wyddgrug ddydd Mercher 1 Mawrth 2023, a fydd yn cyd-fynd â phen-blwydd yr Elusen yn 22 oed.

Dechreuodd y gwasanaeth achub bywydau weithredu ar Ddydd Gŵyl Dewi 2001 ac ers hynny mae wedi mynychu 44,500 o alwadau ers ei sefydlu.

Bydd y siop newydd, a fydd wedi’i lleoli ar hen safle Poundstretcher yng Nghanolfan Daniel Owen, yn helpu i godi arian ar gyfer yr Elusen Cymru gyfan a bydd hefyd yn ganolbwynt i'r gweithrediadau manwerthu yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Mae’r adeilad wedi’i drawsnewid yn llwyr ac mae llawer o gyffro yn y dref wrth aros iddo agor.

Bydd rheolwr siop Wrecsam, Sharon Jones, hefyd yn rheoli siop newydd yr Wyddgrug. Mae a Ieuan Denman wedi cael ei recriwtio cynorthwyydd gwerthu a mae nifer o bobl hefyd wedi cofrestru i wirfoddoli yn y siop o ganlyniad i ddigwyddiadau dros dro yn y dref. 

Dywedodd Sharon ei bod yn edrych ymlaen at weld y siop newydd yn agor ar ben-blwydd yr Elusen yn 22 oed a bod ganddi ychydig o syniadau ar y gweill i nodi’r diwrnod arbennig yn ogystal â Dydd Gŵyl Dewi.

Dywedodd: “Rydym i gyd yn edrych ymlaen at ddechrau arni a gwneud y siop yn yr Wyddgrug yn llwyddiannus iawn. Mae agor ar ddiwrnod mor arbennig i’r Elusen ac ar Ddydd Gŵyl Dewi yn ei gwneud yn fwy arwyddocaol fyth.

 “Rydym wedi recriwtio tîm gwych yn ogystal â nifer o wirfoddolwyr, sy'n edrych ymlaen at gwrdd ag aelodau o’r gymuned a helpu i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

 “Bob tro rydyn ni wedi bod yn y siop, mae aelodau o’r cyhoedd wedi bod yn gofyn i ni pryd rydyn ni’n agor ac yn bendant mae bwrlwm yn y gymuned ynghylch yr agoriad. Mae hyd yn oed fy nghwsmeriaid rheolaidd yn ein siop yn Wrecsam yn edrych ymlaen at ymweld â siop yr Wyddgrug.”

Mae gan siop yr Wyddgrug lawer o le storio ac arwynebedd llawr a fydd yn galluogi'r Elusen i dderbyn mwy o roddion. Bydd hefyd yn gallu dal a dosbarthu stoc a roddwyd i siop Wrecsam.

Ychwanegodd Sharon: “Rydym yn edrych ymlaen at gynnig dodrefn o safon yn ogystal ag eitemau mwy a chredwn y bydd hyn yn denu mwy o bobl i’r siop. Mae’r siop wedi cael goleuadau ynni effeithlon newydd, lloriau newydd ac mae’n edrych yn fodern gyda brand newydd yr Elusen. Rydym yn annog pobl i ddod i’r siop ar 1 Mawrth i ddweud helo a bydd croeso cynnes yn aros amdanynt.”

Mae'r safle newydd yn yr Wyddgrug yn rhan hanfodol o'r broses o ddatblygu glasbrint manwerthu Ambiwlans Awyr Cymru ledled Cymru. Mae'n rhan o strategaeth hirdymor i gynyddu ôl troed manwerthu'r ac ymgysylltu â chefnogwyr yn eu cymunedau.   

Dywedodd Rob Coles, Pennaeth Manwerthu Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae ein siopau yn fwy na chanolfannau manwerthu, maent yn rhan o'r cymunedau maent yn eu gwasanaethau. Bydd yr hwb newydd yn cyfrannu at ein gwasanaeth sy'n achub bywydau. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i’r Elusen, ac rydym wrth ein bodd bod y cyfleuster wedi creu cyfleoedd swyddi a gwirfoddoli newydd. Rydym yn edrych ymlaen at wella ein cydberthynas â phobl yr ardal ac i groesawu aelodau o’r gymuned i ddathlu ein pen-blwydd yn 22 yn y siop ar 1 Mawrth.” 

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.  

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.  

Dywedodd Cyngor Tref yr Wyddgrug ei fod yn falch bod Ambiwlans Awyr Cymru wedi dewis yr Wyddgrug i agor ei hwb manwerthu a siop elusen yng ngledd-ddwyrain Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Haydn Jones, Maer Cyngor Tref yr Wyddgrug: “Rwy’n falch iawn o groesawu siop Ambiwlans Awyr Cymru i’n tref. Mae’r Elusen yn gwneud gwaith aruthrol ac mae ein GIG yn dibynnu ar y gwasanaeth y mae’r Ambiwlans Awyr yn ei ddarparu i helpu cleifion i gael triniaeth yn gyflym. Mae hyn yn hafodol gan fod bywyd yn y fantol. 

“Rwy’n gwybod y bydd y siop newydd yn yr Wyddgrug yn cael cefnogaeth dda gan ein cymuned a bydd gwerthiant yn yr Wyddgrug yn helpu Ambiwlans Awyr Cymru i godi arian. Ar ran Cyngor Tref yr Wyddgrug, hoffwn ddymuno pob lwc i’r holl staff a gwirfoddolwyr gyda’r agoriad ac edrychaf ymlaen at alw draw i gwrdd â phawb.”