04/06/2020

Mae menyw o Sir Benfro wedi datgan ei bod am osod record newydd drwy redeg ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro yn yr amser cyflymaf – unwaith y caiff y cyfyngiadau symud eu codi yng Nghymru.

Nod Sanna Duthie, sy’n 32 oed ac yn byw yn Aberdaugleddau, yw bod yr ail berson erioed i redeg ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro i gyd, sef 186 o filltiroedd. Mae'n gobeithio cwblhau’r her mewn llai na 64 awr a 32 munud ac mae'n achub ar y cyfle i godi arian i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Cafodd y record gyfredol ei gosod gan Richard Simpson o Hwlffordd, a gwblhaodd yr her yn 2018.

Fel rhedwraig uwchfarathonau, mae eisoes wedi rhedeg 100 milltir mewn llai na 28 awr, ond ei gobaith nawr yw gwella ar hynny a chodi arian i elusen sy'n bwysig iawn iddi ar yr un pryd.

Dywedodd Sanna, sy'n hoff o redeg ‘rasys gwirion’: “Oherwydd yr amgylchiadau presennol, dydw i ddim yn gwybod pryd bydda’ i’n gallu gwneud hyn. Gobeithio y bydd yn ystod 2020, ond hoffwn i ddechrau codi arian nawr. Rwy'n hoff iawn o Lwybr Arfordir Sir Benfro. Rwyf wedi rhedeg ar hyd pob rhan ohoni, ond nid ar yr un pryd. Rwy'n anelu at gwblhau’r her mewn llai na 60 awr a hoffwn i godi arian i’r elusen wych hon sy'n gwasanaethu ein sir.”

Dywedodd Sanna ei bod eisoes yn hyfforddi ar gyfer uwchfarathonau ond ei bod yn cydnabod na fydd rhedeg 186 o filltiroedd yn ‘dasg hawdd’. Caiff ei chefnogi gan ffrindiau a theulu ar hyd ar y daith, a fydd yn dechrau yn Nhrefdraeth ac yn gorffen yn Amroth.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian De Cymru Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym ni mor ddiolchgar i Sanna. Mae'n her bersonol anodd ynddi ei hun a byddwn yn ei chefnogi bob cam o’r ffordd at y llinell derfyn – gyda'r gobaith o osod record newydd. Mae'n anhygoel bod Sanna yn dewis codi arian ar gyfer ein gwasanaeth sy'n achub bywydau ar yr un pryd. Rydym ni mor ddiolchgar iddi am ei chymorth a hoffem ddymuno'n dda iddi.”

Mae Sanna wedi codi £318 hyd yma. Gallwch ddangos eich cefnogaeth drwy fynd i’w thudalen Just Givng a rhoi arian yn yma.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian – fel Sanna. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.