Mae menyw  o Sir Benfro wedi datgan ei bod am  osod record  newydd drwy  redeg  ar hyd Llwybr  Arfordir  Sir Benfro yn yr amser cyflymaf yr wythnos nesaf.

Nod Sanna  Duthie, sy’n 32 oed ac yn byw yn Aberdaugleddau,  yw  bod  yr  ail  berson  erioed  i redeg  ar hyd Llwybr  Arfordir  Sir Benfro i gyd, sy’n 186 o filltiroedd. Mae'n  gobeithio  cwblhau’r  her  mewn  llai na  64 awr  a 32 munud  gan  achub  ar y cyfle i godi arian i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ar yr un pryd. 

Cafodd y record bresennol ei gosod gan Richard Simpson o Hwlffordd,  a gwblhaodd yr her yn 2018.  

Fel  rhedwraig  uwchfarathonau , mae  eisoes  wedi rhedeg  100 milltir  mewn  llai  na 28 awr , ond ei gobaith  nawr yw  gwella ar  hynny  a chodi arian i elusen sy'n bwysig iawn iddi ar yr un pryd.  

Mae Sanna, sy'n hoffi rhedeg ‘rasys am hwyl’, wedi bod yn aros i'r cyfyngiadau symud lacio yng Nghymru er mwyn cwblhau'r her enfawr.  

Mae wedi gosod y dyddiad ar gyfer yr her, sef dydd Mercher 19 Awst. Wrth drafod sut y mae wedi bod yn paratoi ar gyfer yr her, dywedodd: Mae'r hyfforddiant wedi mynd yn dda.   Rwyf wedi rhedeg dros 300 o filltiroedd y mis dros y pum mis diwethaf felly gobeithio fy mod wedi paratoi fy nghorff yn dda ar gyfer yr her. Rwyf hefyd wedi gallu cael sesiynau tylino chwaraeon unwaith eto, felly mae nhw wedi bod yn ddefnyddiol wrth wella.

“Rwy'n hoff iawn o Lwybr Arfordir Sir Benfro. Rwyf wedi rhedeg  ar hyd pob   rhan ohono, ond nid ar yr un pryd. Rwy'n anelu at gwblhau’r her mewn llai na 60 awr  a hoffwn  godi arian i’r elusen wych hon sy'n gwasanaethu ein sir.

“Rwy'n awyddus iawn i ddechrau arni nawr. Mae bocsys gennyf yn barod sy'n cynnwys fy nghit a bwyd. Rwyf wedi mwynhau bod ar lwybr yr arfordir dros y penwythnosau diwethaf, felly rwy'n edrych ymlaen at dreulio dau ddiwrnod cyfan arno yn gwneud rhywbeth rwy'n hoff iawn ohono ar gyfer achos mor wych.” 

Dywedodd Sanna  ei bod eisoes yn hyfforddi ar gyfer uwchfarathonau  ond ei bod  yn cydnabod na fydd rhedeg 186 o filltiroedd yn  ‘dasg hawdd’ . Ychwanegodd fod  llawer o bobl yn ‘meddwl ei bod yn wallgof’ ond yn edmygu ei  ‘hystyfnigrwydd’.

Caiff ei chefnogi  gan  ffrindiau a theulu ar ddiwrnod y daith, a fydd yn dechrau  yn  Nhrefdraeth ac yn gorffen yn Amroth. 

Wrth drafod y cymorth y mae wedi'i dderbyn, dywedodd Sanna: “Mae fy ngwaith wedi fy nghefnogi, wedi cyfrannu at yr achos ac wedi rhoi amser i ffwrdd i mi gyflawni'r her. Mae fy nhad a fy mhartner wedi bod yn gefnogol iawn. Maent wedi fy helpu i fy ngalluogi i redeg pellteroedd hir a rhoi hwb i mi ar hyd y daith.

“Bydd llawer o bobl yn dod i fy ngwylio yn ystod yr her a bydd hyn yn fy nghadw i fynd ac yn fy annog i ddyfalbarhau.”

Dywedodd Mark Stevens,  Rheolwr Codi Arian  De Cymru Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym mor ddiolchgar  i Sanna.   Mae'n her bersonol anodd ynddi ei hun a byddwn yn ei chefnogi bob cam o’r ffordd at y llinell derfyn – gyda'r gobaith o osod record newydd.   Mae'n anhygoel bod  Sanna   yn dewis codi arian ar gyfer ein  gwasanaeth  sy'n achub bywydau ar yr un pryd. Rydym mor ddiolchgar iddi am ei chefnogaeth a  hoffem ddymuno'n dda iddi."  

Mae Sanna  wedi codi £970 o'i tharged o £2,000 hyd yma. Gallwch ddangos eich cefnogaeth  drwy fynd  i’w  thudalen  Just Giving  a rhoi  arian yn  https://www.justgiving.com/fundraising/sanna-duthie2 

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys  rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian –  fel Sanna. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  www.ambiwlansawyrcymru.com. 

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.