Diolch calonnog I Mrs Elizabeth Hughes o Rhosneigr, Ynys Mon, am ddod i Maes Awyr Caernarfon,gyda’i theulu  efo rhodd caredig iawn o £2400 er cof ei mab annwyl Mr Peter Wyn Hughes.

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd. 

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.  

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com 

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.