Mae carnifal o Wynedd wedi rhoi £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru i helpu gyda'i gwasanaethau sy'n achub bywydau.

Daeth aelodau o bwyllgor carnifal Llanberis, a helpodd i drefnu'r digwyddiad cymunedol blynyddol rhwng 1967 a 2002, at ei gilydd yn ddiweddar i drafod beth i'w wneud gyda'r arian a oedd yn weddill yn y cyfrif cyn ei gau.

Daeth y carnifal i ben yn y pentref yn 2002, ond parhaodd y pwyllgor i roi arian yn gyson i achosion lleol.

Dywedodd Eric Baylis, un o aelodau o Bwyllgor Carnifal Llanberis, y gorfodwyd i'r carnifal ddod i ben am nad oedd digon o wirfoddolwyr i helpu i drefnu'r digwyddiad.

Dywedodd: “Yn anffodus, daeth y carnifal yn rhy fawr i ni ei reoli, ac nid oedd digon o wirfoddolwyr gennym i barhau i'w wneud yn llwyddiannus. Cawsom lawer o garnifalau gwych ar hyd y blynyddoedd a fu'n llawer o hwyl ac mae gennym lawer o atgofion hyfryd, a gwnaethom godi swm anhygoel o arian i'r gymuned ac achosion lleol.

“Ychydig fisoedd yn ôl, gwnaethom gyfarfod fel pwyllgor i drafod ble roeddem eisiau i weddill yr arian fynd cyn i ni gau'r cyfrif. Gwnaethom benderfynu rhoi swm o arian i Ambiwlans Awyr Cymru am ei fod yn wasanaeth hanfodol.

Yn ogystal ag Ambiwlans Awyr Cymru, elwodd achosion eraill o roddion pwyllgor y carnifal, gan gynnwys Ysgol Gynradd Dolbadarn, Grŵp Meithrin Llanberis, Canolfan Feddygol Llanberis, Ymatebwyr Cyntaf Grŵp Datblygu Cymuned Llanberis a chyngor cymunedol lleol.

Dywedodd Eric: “Gyda'r arian gwnaethom hefyd helpu i brynu diffibriliwr i'r ysgol, goleuadau Nadolig i'r pentref ac adnoddau cyffredinol newydd.”

Cynhaliwyd cyflwyniad yn Eglwys Padarn Sant, lle derbyniodd Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru, Alwyn Jones, siec hael iawn o £2,000 gan y pwyllgor ar ran yr Elusen.

Dywedodd Alwyn: “Hoffwn ddiolch o galon i aelodau'r pwyllgor am y rhodd sylweddol i'n Helusen sy'n achub bywydau. Gwerthfawrogir eich cefnogaeth yn fawr. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithredu 24/7, saith diwrnod yr wythnos nawr ac mae rhoddion fel hyn yn hanfodol. Drwy gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd, gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan achub bywydau.

“Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r pwyllgor am y croeso cynnes i eglwys hardd Padarn Sant a dymunaf yn dda i chi gyd i'r dyfodol.”

Mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. 

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.   

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.