Mae parc gwersylla a gwyliau yng Ngwynedd wedi rhoi dros £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru er mwyn helpu i sicrhau bod yr hofrenyddion yn parhau i hedfan.

 

Mae Parc Gwersylla Cae Clyd ym Mhontllyfni ger Caernarfon wedi rhoi £2,294 i'r elusen hofrenyddion yn dilyn diwrnod o hwyl a gynhaliwyd ar y safle.

 

Cynigiodd yr ŵyl undydd, a fu'n boblogaidd yn lleol, gyfle i ymwelwyr gael mwynhau diwedd yr haf cyn i'r tymhorau newid.

 

Dywedodd cydlynydd cymuned Ambiwlans Awyr Cymru Alwyn Jones: "Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i berchnogion y gwersyll, Mr a Mrs Arwel ac Eleri Hughes am gefnogi ein helusen. Bob blwyddyn, rydym yn dibynnu'n llwyr ar garedigrwydd y cyhoedd yng Nghymru i'n galluogi i gyrraedd y targed blynyddol o £6.5 miliwn.

 

"Mae Gogledd Cymru yn dal i fod yn lleoliad poblogaidd i dwristiaid, ac mae'r haf yn dal i fod yn un o'r tymhorau prysuraf. Mae ein hofrenyddion a leolir yng Nghaernarfon (Helimed 61) i'w gweld yn aml yn yr awyr uwchben yr ardal. Mae cael cymorth awyr arbenigol gyda 'Meddygon Hedfan Cymru' yn rhoi tawelwch meddwl nid yn unig i'r trigolion, ond hefyd i'r twristiaid sy'n ymweld â'n gwlad brydferth.

 

"Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhodd hael iawn hon, a fydd yn ein helpu i barhau â'n gwaith o achub bywydau ledled Cymru gyfan."