Mae parc carafanau ym Mhowys wedi parhau i gefnogi elusen hofrenyddion sy’n achub bywydau, er gwaethaf y ffaith nad oedd modd cynnal digwyddiadau codi arian yn 2020.

Ymunodd staff a pherchnogion carafanau ym Mharc Gwyliau Llwyn Celyn ger y Drenewydd, â’i gilydd i roi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, gan godi swm gwych o £2000.

Mae Parc Gwyliau Llwyn Celyn wedi cefnogi Ambiwlans Awyr ers y cychwyn cyntaf. Pan gymerwyd y parc drosodd gan y perchnogion newydd, Diane Whitehouse a’i mab Lee Jasper, ym mis Ebrill 2015, gwelsant fod y cyn-berchnogion Peter a Pamela Fenton yn arfer cynnal diwrnod hwyl ym mis Awst bob blwyddyn i godi arian i’r elusen sy’n achub bywydau.

Dywedodd Diane: “Roeddem yn awyddus i barhau i wneud hyn am ein bod yn sylweddoli pa mor hanfodol yw cael y gwasanaeth hwn, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Arian a godir gan y cyhoedd sy'n cadw’r hofrenyddion yn yr awyr.”

Bob blwyddyn mae’r parc carafanau wedi cynnal amrywiaeth o wahanol achlysuron codi arian. Er gwaethaf y ffaith y bu’n rhaid canslo digwyddiadau o ganlyniad i’r pandemig presennol, roedd perchnogion carafanau a staff hael yn benderfynol o godi arian i elusen sy’n agos at eu calonnau.

Dywedodd Diane: “Mae tymor 2020 wedi bod yn hunllef i bawb, ac yn amlwg nid oedd yn bosibl i ni gynnal unrhyw ddigwyddiadau, felly rhoddodd pobl arian, a gwnaethon ni ychwanegu gweddill yr arian i gyrraedd swm o £2000, am fod angen cadw’r ambiwlans awyr yn yr awyr gymaint â phosibl.

“Cafodd perchennog un o’r carafanau ar y safle drawiad ar y galon, a bu'n rhaid iddo ddibynnu ar yr ambiwlans awyr ei hun. Cafodd ei gludo ar frys i Wolverhampton lle gosodwyd stent yn ei galon.  Heb yr ambiwlans awyr, gallai hynny fod wedi bod yn angheuol, felly byddwn bob amser yn ceisio codi cymaint o arian â phosibl.”

Daw yr arian a roddwyd gan berchnogion carafanau a staff yn unig. Mae’r parc carafanau wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel y brif elusen y bydd yn codi arian ar ei chyfer, ond bydd hefyd yn codi arian i elusennau eraill pan fydd gan rywun sy’n byw ar y safle gysylltiad agos ag un. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae wedi codi mwy nag £8,000 i elusennau gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru, Cardiac Risk in the Young a Macmillan.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch o galon i bawb ym Mharc Gwyliau Llwyn Celyn am eu cefnogaeth barhaus. Er gwaethaf y ffaith nad oedd modd cynnal digwyddiadau codi arian eleni, mae’r staff a pherchnogion carafanau, yn garedig iawn, wedi rhoi’r swm gwych o £2000 i’n helusen. Mae eu hawydd i godi arian wedi bod yn amlwg dros y blynyddoedd. Rydym yn gobeithio y bydd 2021 yn flwyddyn well, ac rydym yn gwerthfawrogi eu cymorth. Bydd yr arian a godwyd yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr 24/7.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Barc Gwyliau Llwyn Celyn drwy fynd i’w wefan yn www.llwyncelyncaravanpark.co.uk