Pan fydd Keith Thomas yn gosod her i'w hun, mae wir yn mynd amdani, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol!

Eleni mae Keith, a gaiff ei adnabod fel ‘Mr Selfie’, wedi bod yn cymryd hunlun bob dydd i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Gwnaeth y gyrrwr bws o Lanelli ragori ar ei darged gwreiddiol o £1,000 a hyd yma mae wedi codi £2,175. Mae bellach yn gobeithio cyrraedd £2,500 erbyn diwedd y flwyddyn.

Oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws, mae Keith wedi gorfod addasu ei ffordd o dynnu hunluniau i gynnwys y rheol 2 fetr ac mae hefyd wedi cysylltu â phobl i ofyn iddynt gyflwyno hunlun.  Mae rhai o'r enwogion sydd wedi bod yn fodlon cymryd rhan yn yr her hyfryd hon yn cynnwys Michael Sheen, yr actorion Will Mellor a Shobna Gulati o Coronation Street, y cyflwynydd teledu Eamonn Holmes, yr arwyr rygbi Jonathan Davies a Scott Quinnell, Kelsey Redmore o ITV Wales, Claire Summers o BBC Wales, y cyflwynwyr tywydd Sue Charles, Derek Brockway a Behnaz Azhgar, yr actores a chyflwynydd radio Sarah Champion a'r digrifwr Mike Doyle.

Dywedodd Mr Selfie, yn llawn balchder: “Mae wedi bod yn wych gweld pob math o enwogion yn cymryd rhan drwy anfon hunlun ataf er mwyn i mi ei ddefnyddio, ar Twitter yn bennaf. Maent i gyd wedi dymuno pob lwc i mi yn fy ymdrechion codi arian. Cefais sioc pan wnaeth seren Gymreig y sgrin fawr Michael Sheen ateb gyda hunlun a neges yn dweud pob lwc.

“Mae pob hunlun unigol wedi bod yn ffefryn personol i mi am ei fod yn cynnwys pobl yn dangos eu cefnogaeth i fy ymgyrch codi arian ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Nid yw codi arian yn beth newydd i Mr Selfie, sy'n 60 oed; mae wedi bod yn codi arian i achosion da ers 2016. Hyd yma mae wedi codi dros £13,500 i achosion gwych ac mae'n gobeithio codi llawer mwy yn y dyfodol.

Wrth siarad am pam ei fod wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd: “Mae’r ambiwlansys  awyr  yn elfen hollbwysig o’r gwasanaethau brys yn fy marn i. Rwyf wedi’u gweld ar waith pan oedd fy llysfab yn chwarae rygbi. Maent wedi trin aelodau o’i dîm ddwywaith ac roedd eu gwaith yn wych.   

“Caiff cymaint o fywydau eu hachub yn sgil camau gweithredu cyflym ein gwasanaethau meddygol, ac mae’r ambiwlans awyr yn hollbwysig i’w galluogi i gyflawni eu gwaith gwych.”  

Dywedodd Jane Griffiths, cydlynydd codi arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer De Cymru:   “Dyna seren yw Mr Selfie! Mae wedi ymgymryd â her blwyddyn o hyd ar gyfer ein helusen ac mae wedi codi swm anhygoel. Mae ei hunluniau bob amser yn rhoi gwên ar fy wyneb. Mae Keith wedi gweithio'n galed i gael llawer o enwogion a theuluoedd i gymryd rhan, a dylai deimlo'n falch o'i hun.

“Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi arian i'w ymgyrch codi arian neu sydd wedi rhoi hunlun i Keith. Bydd pob rhodd yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr fel y gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau ledled Cymru.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Mr Selfie drwy gymryd hunlun a rhoi arian drwy ei dudalen Just Giving , ‘Keith's 2021 Selfie challenge’ .

Gallwch ddilyn Mr Selfie ar ei dudalen Twitter  @keiththom2014 neu ei dudalen Facebook , ‘Keith's 2021 Selfie challenge’.