Merch ysgol i gerdded i fyny Pen y Fan er cof am ei thad Mae merch ysgol wedi gosod her iddi hi ei hun i gerdded i fyny Pen y Fan ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru er cof am ei thad. Collodd Amelia Millet, o Bont-y-pŵl, ei thad, Adam, yn dilyn damwain car, pan roedd hi'n bedair oed. Er cof amdano, mae'n bwriadu cerdded i fyny'r copa uchaf yn Ne Cymru, sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Hon yw ymgyrch codi arian gyntaf Amelia ar gyfer yr Elusen, ac mae eisoes wedi cyrraedd ei tharged o £250. Mae'r ferch 12 oed wedi codi swm anhygoel o £1,055 ar gyfer elusen Cymru gyfan yn barod. Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth sy'n cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen. Dywedodd Tiffany, mam falch Amelia sy'n edrych ymlaen at weld faint y bydd hi'n gallu ei godi: “Fel teulu, rydym yn falch iawn o Amelia, yn enwedig o ystyried y ffaith iddi fod drwy gymaint wedi colli ei thad yn bedair oed. Mae'r teulu bob amser wedi codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, ond mae Amelia eisiau gwneud hyn iddi hi ei hun. Mae'n fendith gweld plentyn 12 oed gyda chalon mor garedig a gofalgar. "Cafodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei galw ar gyfer ei thad, ac roeddent wir yn anhygoel a gwnaethant bopeth o fewn eu gallu i'w gadw yma. Nid oes digon o eiriau i ddisgrifio'r help y byddant yn ei roi i bobl, ac maent yn haeddu llawer mwy o gydnabyddiaeth am eu gwaith. Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Bydd Amelia, sy'n mynd i Ysgol Gyfun Abersychan, ac sydd â dwy chwaer ac un brawd iau, yn rhoi ei hesgidiau cerdded am ei thraed yn barod i gerdded i fyny Pen y Fan ddydd Sul 4 Awst. Ychwanegodd Tiffany: “Mae'n deimlad arbennig gweld merch 12 oed yn penderfynu ei bod am gerdded i fyny Pen y Fan er cof am ei thad.” Dywedodd Abi Pearce, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i Amelia, sy'n amlwg yn ferch ifanc garedig iawn. Er iddi golli ei thad yn ifanc iawn, mae Amelia wedi gosod yr her iddi hi ei hun i godi arian ar gyfer yr Elusen a geisiodd achub bywyd ei thad, sy'n anhygoel. Rydym yn dymuno'n dda i Amelia gyda'i hymgyrch codi arian, ac yn diolch i bawb sydd wedi ei chefnogi drwy gyfrannu at yr achos hwn. Mae hi eisoes wedi codi swm gwych o £460 i Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n anhygoel.” Mae cyfle o hyd i gefnogi Amelia drwy roi arian drwy ei thudalen Go Fund Me -Fundraiser by Amelia Millett : Pen-y-fan walk in memory of Adam Millett my dad (gofundme.com). Manage Cookie Preferences