24/09/2020

Mae nyrs ddewr o Ben-y-bont ar Ogwr a gollodd ei dyweddi, Matt King, mewn damwain bedair blynedd yn ôl, wedi codi £430 ar gyfer yr elusen a frwydrodd i achub ei fywyd.

Cwblhaodd Elizabeth Sim, sy'n 44 oed, dros 100 o filltiroedd yn Ras Eithafol y Ddraig i godi arian i'r elusen sy'n bwysig iawn iddi.

Yn 2016, roedd Elizabeth yn lleoliad y ddamwain beic modur pan gafodd Matt ei ladd. Gwelodd y nyrs, sy'n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, waith anhygoel Ambiwlans Awyr Cymru â'i llygaid ei hun.

Ers marwolaeth Matt, mae ei deulu a'i ffrindiau wedi codi miloedd o bunnoedd er budd yr elusen hofrenyddion sy'n achub bywydau. Yn wreiddiol roedd Elizabeth yn bwriadu rhedeg Marathon Wal Fawr Tsieina ym mis Mai ond oherwydd pandemig presennol y Coronafeirws, cafodd ei ganslo.

Wrth feddwl am y rhesymau dros ddewis y ras eithafol fel ei digwyddiad codi arian, meddai: "Chwiliais am her arall, a des o hyd i rywbeth a fyddai'n yn heriol iawn i mi. Fodd bynnag, oherwydd COVID-19, roeddwn yn gwybod bod gennyf amser i hyfforddi, felly cofrestrais i redeg Ras Eithafol 100 y Ddraig."

Cymerodd 45 o redwyr ran yn yr her - a ddechreuodd yn Rhosili, y Gŵyr gan orffen yng Nghaerdydd - gyda 18 o bobl yn unig yn croesi'r llinell derfyn. Roedd Elizabeth yn un o dair menyw yn unig a lwyddodd i gwblhau'r ras. Mae hi ar ben ei digon am ddod yn ail o blith y menywod i groesi'r llinell derfyn.

Wrth siarad am gwblhau'r her enfawr, dywedodd Elizabeth: "Roedd yn anhygoel. Roedd y llwybr yn anodd, ac roedd y tywydd yn rhy boeth.

Ond am ddiwrnod. Cafodd y ras effaith fawr arnaf a bu'n rhaid i mi gael help i fynd i'r gwely wedyn. Roeddwn yn sâl, yn benysgafn ac wedi dadhydradu, a doeddwn i ddim yn gallu sefyll. Ond am brofiad.

"Erbyn milltir 64 roeddwn i'n teimlo'n emosiynol ac yn flinedig iawn ac yn crio dros unrhyw beth. Erbyn milltir 77 roedd popeth o'm cluniau i lawr yn brifo'n ofnadwy ac wrth gyrraedd milltir 82, torrais fy nghalon am nad oeddwn i'n meddwl y byddwn i'n gallu gorffen y ras.

"Roedd y 10 milltir olaf yn rhai araf ac roedd cerdded yn brifo hyd yn oed. Gwnaeth fy mhartner rhedeg, Steve, fy annog a'm gwthio drwy'r boen, a llwyddais i gwblhau'r her. 104 milltir!”

Roedd Elizabeth, sy'n benderfynol iawn, wedi blino'n lân ar ôl yr her, a dim ond ar ochr ei thraed yr oedd hi'n gallu cerdded ar ôl y ras, ond mae'n falch iawn o'r hyn y mae wedi'i gyflawni.

Ers colli Matt, mae Elizabeth wedi dweud bod rhedeg wedi dod yn ffordd o ymdopi iddi. Roedd hi'n teimlo bod rhedeg i'r elusen yn golygu bod modd iddi roi rhywbeth yn ôl a'i fod wedi rhoi diben a nod iddi.

Mae Elizabeth, sy'n fam i Fern, 23, a Jake, 22, yn dweud bod ei hagwedd benderfynol wedi cael effaith ar ei phlant. Ychwanegodd: "Mae fy mhlant yn ofni'r hyn rwy'n mynd i'w wneud nesaf. Ers dechrau fy nhaith rhedeg, mae'r ddau ohonynt bellach wedi cwblhau marathon hefyd. Rwy'n falch iawn o'u cyflawniadau."

Ar ôl y ddamwain, roedd Elizabeth yn benderfynol o gwblhau ei gradd mewn nyrsio, ac mae bellach yn gweithio mewn theatrau cardiaidd cathetr – swydd y mae hi'n ei mwynhau yn fawr.

Mae ffrindiau a theulu Elizabeth wedi bod yn gefnogol iawn o'i gwaith codi arian. Dywedodd: "Mae fy nheulu a'm ffrindiau yn meddwl fy mod i'n hollol wirion, ond maen nhw'n deall bod fy ngorffennol yn fy ngyrru ymlaen.

"Rwyf wedi cael fy ngadael yn weddw ddwywaith, felly wrth symud ymlaen, rydw i am wneud gwahaniaeth, gan ddangos i bobl eraill bod modd dod o hyd i'r goleuni a chanfod hapusrwydd eto, waeth pa mor ddu yw'r byd o'ch cwmpas. Ac yn well byth, mae'n ysbrydoli pobl eraill i herio eu hunain."

Hoffai ddiolch i'w phlant, ei theulu, ei ffrindiau agos, ei theulu yn y gwaith a'i chlwb rhedeg, Ogmore Phoenix Runners.

Dywedodd: "Diolch i'r bobl hyn am fy ngwneud i'n berson penderfynol a hapus. Mae fy niolch pennaf yn mynd i Steve, a redodd ras y Ddraig gyda mi. Gwnaeth fy helpu i hyfforddi, gwnaeth fy ngwthio i barhau pan oeddwn yn ei chael hi'n anodd ac roedd ef, fel gweddill fy nghefnogwyr, yn credu yn fy ngallu i drechu'r Ddraig."

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae Elizabeth wedi creu gwaddol anhygoel i Matt drwy godi arian er cof amdano i help eraill sydd mewn angen. Rydym yn cydnabod anferthedd yr her, yn feddyliol ac yn gorfforol, ac mae'r ffaith bod Elizabeth wedi gwneud hyn i'n cefnogi ni yn deimlad arbennig.

"Llongyfarchiadau ar gyflawniad anhygoel a diolch i bawb a roddodd arian."

Mae Elizabeth yn falch iawn ei bod wedi llwyddo i godi mwy na'i tharged o £100. Gallwch ddangos eich gwerthfawrogiad i Elizabeth o hyd gan roi arian drwy ei thudalen Just Giving, Elizabeth's The Dragon 100.