12fed Gorffennaf 2018


Mae triathletwr brwdfrydig o Sir Benfro wedi brwydro er gwaethaf pob dim  drwy barhau gyda’i hymdrech i geisio cwblhau 100 ras marathon.   

Bu bron i Mandy Draper o Sir Benfro farw yn 2016 yn dilyn damwain ddifrifol tra’n seiclo o’i chartref i’w gwaith. Mae Mandy yn olrhain y profiad trawmatig, “Yn ffodus i mi, roedd pob dim wedi digwydd mor gyflym.  Yr hyn oll yr wyf yn cofio yw’r car yn dod ataf.”

Cludwyd Mandy yn yr hofrennydd o’r ddamwain i Ysbyty Treforys, Abertawe  lle y rhoddwyd hi mewn coma yn sgil ei hanafiadau helaeth.

“Cefais fy nghludo yn yr awyr i Ysbyty Treforys lle y canfuwyd fy mod wedi dioddef anaf difrifol i’m pen, gwasgfa ar ei hysgyfaint, roedd fy holl asennau bron wedi torri ac roedd fy ngarddwrn wedi ei dorri hefyd. Ar ben hyn, roedd  handlen gafael y beic wedi mynd drwy fy morddwyd, gan osgoi’r brif wythïen.”

Er na ddylai fod llawer o siawns ganddi i oroesi a’r meddygon yn dweud na fyddai yn cerdded eto, trodd Mandy gornel gan wneud adferiad anhygoel.

Ers gadael yr ysbyty, mae Mandy wedi cwblhau sawl ras marathon  gan gynnwys Ras Marathon Lanzarote a Birmingham. Yn fwy diweddar, roedd wedi cwblhau Hanner Marathon Abertawe tra’n gwisgo Siwt Hedfan Hofrennydd a Helmed, gan gasglu mwy na  £100 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Ychwanegodd Mandy: “Roeddwn yn gwybod fy mod am fynd i’r afael gyda Hanner Marathon Abertawe gan ei fod wedi cael adolygiadau mor dda. Roeddwn am gasglu arian ynghyd â chynyddu ymwybyddiaeth o Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd y tîm yn Nafen wedi bod yn garedig drwy roi benthyg hen siwt hedfan a helmed i mi ac mi wnes i redeg yr holl beth yn gwisgo’r rhain hyn.”

“Roedd yn her anodd ond gwerth chweil ac rwyf mor falch i mi gwblhau hyn. Byddaf yn fythol ddiolchgar i Ambiwlans Awyr Cymru am ddod i’m helpu yn ystod fy awr o angen.

Nid yw Mandy yn dangos unrhyw arwydd o arafu ac erbyn hyn yn benderfynol o gwblhau Marathon Dinbych-y-pysgod a nifer o heriau rhedeg eraill drwy gydol yr haf.  

Ychwanegodd Mandy: “Rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn marathon Dinbych-y-pysgod yn y siwt hedfan a’r helmed eto.  Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn fy nghefnogi ac yn rhoi unrhyw newid sbâr i mi helpu casglu arian i Ambiwlans Awyr Cymru.” 

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn barod i ymateb bob dydd o’r flwyddyn i unrhyw un sydd yn wynebu salwch neu anaf sy’n fygythiad i’w bywyd. Mae’r elusen yn gwbl ddibynnol ar roddion er mwyn casglu’r £6.5 miliwn sydd angen pob blwyddyn i gadw’r pedwar hofrennydd yn hedfan.