11/09/2020

Eleni, bydd yr wythnos yn canolbwyntio ar y thema ‘am fod pob eiliad yn cyfrif’ gan dynnu sylw at y gofal anhygoel a ddarperir bob dydd gan Ambiwlans Awyr Cymru ac elusennau ambiwlans awyr y DU.

Drwy'r wythnos, byddwn yn tynnu sylw at y ffordd y mae Ambiwlans Awyr Cymru ac elusennau ambiwlans awyr eraill yn achub bywydau bob dydd ledled y DU drwy ddod â'r adran achosion brys at gleifion sy'n ddifrifol wael neu wedi'u hanafu'n ddifrifol. Rydym yn gofyn i chi gefnogi'r wythnos drwy rannu eich straeon a pharhau i gefnogi ein Helusen sy'n achub bywydau. Gallwch wneud hyn drwy ymuno â'n Loteri Achub Bywydau, dod yn wirfoddolwr, ymweld â'n siopau neu ein caffi, codi arian neu wneud rhodd.

Ein timau gofal critigol arbenigol: mae ein parafeddygon, meddygon, peilotiaid, peirianwyr ac anfonwyr yn darparu gofal hanfodol sy'n achub bywydau, lle bynnag y bo angen, gan fod pob eiliad yn cyfrif. 

Y llynedd, gwnaethom hedfan i fwy na 3,000 o alwadau er mwyn achub bywydau ledled Cymru. Mae hyn yn golygu bod meddygon yr Elusen wedi hedfan i fwy na 35,000 o alwadau ers 2001.

Serch hynny, rydym yn wasanaeth brys a ariennir bron yn gyfan gwbl gennych chi. Mae eich cefnogaeth barhaus yn achub bywydau pobl yng Nghymru sy'n ddifrifol wael neu wedi'u hanafu'n ddifrifol pan fyddant fwyaf anghenus. Nid ydym yn cael cyllid uniongyrchol rheolaidd gan y Llywodraeth. Chi, bobl Cymru, sy'n cadw ein hofrenyddion yn yr awyr. Hebddoch chi, ni fyddai'r gwasanaeth hwn sy'n achub bywydau yn bodoli. Mae eich cefnogaeth barhaus yn achub bywydau pobl yng Nghymru sy'n ddifrifol wael neu wedi'u hanafu'n ddifrifol pan fyddant fwyaf anghenus.

Ers ddechrau pandemig COVID-19, mae elusennau ambiwlans awyr wedi wynebu sawl her, gan gynnwys gostyngiad sylweddol yn nifer y rhoddion a geir wrth i effeithiau economaidd y pandemig amlygu'u hunain.

Rydym wedi parhau i ddarparu triniaeth sy'n achub bywydau, yn ogystal â chwarae rôl hanfodol yn yr ymateb rheng flaen i COVID-19. Mae ein tîm ymroddedig a medrus yn parhau'n ymrwymedig ac yn barod i achub bywydau pan fydd rhywun yn cael diwrnod gwaethaf ei fywyd. 

Ac felly, mae angen cymorth arnom nawr yn fwy nag erioed, er mwyn ein galluogi i barhau i achub bywydau pobl fel Hannah Gregson.

Dywedodd Dave Gilbert, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Ambiwlans Awyr Cymru:“Fel llawer o elusennau eraill, rydyn ni wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn cyllid ers i bandemig Covid-19 ddechrau, gan fod mentrau allweddol yn dod i ben, megis bwcedi casglu a digwyddiadau codi arian.  Mae ein meddygon wedi parhau i weithio yn ystod y pandemig ac achub bywydau yng Nghymru. Rydym yn dibynnu ar bobl a busnesau yng Nghymru i helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr.

“Mae stori ysbrydoledig Hannah fach yn dangos pwysigrwydd ein gwasanaeth hanfodol sy'n achub bywydau, gan na fyddai yma heddiw heb gymorth ein meddygon. Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, mae'n blentyn tair oed hapus ac iach, sydd i fod i ddechrau yn yr ysgol feithrin yr wythnos hon. Os gallwch chi, parhewch i'n cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn a helpu i achub mwy o fywydau.”

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Ambiwlans Awyr 2020 neu i wneud rhodd, ewch i ambiwlansawyrcymru.com neu dilynwch #WYA2020 #maepobeiliadyncyfrif