Mae FFERMIO, rhaglen S4C, yn codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru mewn ffordd wahanol! 12 mis yn ôl, fe brynodd Meinir Howells, sy’n cyflwyno FFERMIO, gyda’i gŵr Gary, heffer ar ran y rhaglen boblogaidd amaethyddol hon. Y syniad oedd bridio gyda hi ac wedyn gwerthu hi fel buwch a llo wrth droed, gydag unrhyw elw yn mynd tuag at elusen. Enwyd yr heffer yn Presila Preseli gan wylwyr y rhaglen, sydd wedi cadw llygaid barcud ar ei hanes ar fferm Meinir a Gary, ym Mhentrecwrt ger Llandysul. O brofi rhag TB i’w sgan gyntaf ac wedyn y geni, ‘Siocled” y llo bach benyw (a enwyd gan Sioned merch Meinir a Gary), mae’r gwylwyr wedi bod yn ffyddlon gan ddangos diddordeb mawr yn yr hanes. Nawr mae’r amser wedi dod i Presila a’i llo gael eu gwerthu, a byddan nhw’n mynd o dan y morthwyl ar ddydd Gwener y 14eg o Fai. Byddan nhw’n cael eu gwerthu yn sêl ‘stoc magu’ ym mart Llanymddyfri sy’n dechrau am 12pm. Yn siarad cyn yr arwerthiant, dywedodd Meinir: “Mae wedi bod yn anrhydedd cymryd at y cyfrifoldeb o ofalu am Presila gan ddod at y pwynt lle mae wedi cael llo benyw iach. Fel mae pawb sy’n ymwneud â ffermio’n gwybod, mae’n sialens a hanner. Y diwrnod y cafodd Presila ei sganio er mwyn cael gweld a oedd llo ynddi, o’n i’n fwy nerfus nag erioed bron!” Aeth ymlaen: “Ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae Presila a Siocled yn barod i gael eu gwerthu a thra bydd Gary a finne yn drist o weld nhw’n mynd, ni’n gobeithio y bydd ein gwaith caled a’n gofal yn talu ar ei ganfed a bydd y ddwy yn codi tipyn o arian i elusen Ambiwlans Awyr Cymru.” Mae FFERMIO wedi dewis rhoi’r arian o’r sialens anarferol hon i Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd ei bwysigrwydd wrth achub bywydau o fewn ein cymunedau gwledig. Yn ôl Gwawr Lewis, cynhyrchydd y gyfres: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu’n llwyr ar roddion elusennol ac yn gorfod codi tua £8miliwn bob blwyddyn. Ni’n falch o allu helpu mewn ffordd fach gan obeithio y bydd ffermwyr yn mynd yn ddwfn i’w pocedi i brynu Presila a’i llo. Byddai’n grêt gallu trosglwyddo siec go fawr i’r elusen ar ôl yr arwerthiant yn Llanymddyfri.” Bydd y tîm yn Ambiwlans Awyr Cymru yn cadw llygad ar y cylch gwerthu yn Llanymddyfri. Dywedodd Elin Wyn Murphy, cydlynydd codi arian yr elusen: “Ni’n hynod o ddiolchgar i FFERMIO am ddewis cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Ein nod yw cadw gwasanaeth achub bywyd 24/7 i Gymru gyfan, gan gynnwys ardaloedd diarffordd ein cymunedau amaethyddol. Dim ond drwy weithgareddau codi arian fel hyn mae’n bosib i ni gadw i neud hyn.” Mae FFERMIO yn un o gyfresi hiraf S4C sydd wedi bod yn darlledu ers 1997. Mae pwyslais unigryw y rhaglen ar ffermio a materion gwledig yn denu ffigurau gwylio uchel iawn yn gyson. Gwyliwch FFERMIO am 9.00pm ar S4C ar nos Lun yr 17eg o Fai i weld faint o arian gododd Presila a’i llo ar gyfer elusen. Mae ‘Ffermio’ yn gynhyrchiad gan Telesgop i S4C. Manage Cookie Preferences