Pan benderfynodd Leon Neilly ei fod am newid ei lwybr gyrfa a gadael y coleg, nid oedd yn siŵr ble y byddai'n mynd nesaf.

Bu'n gweithio yn McDonalds wrth astudio ar gyfer cwrs Peirianneg Lefel 3 yng Ngholeg Castell-nedd ond nid oedd yn teimlo bod y cwrs n addas ar ei gyfer.

Roedd yn gwybod nad oedd am weithio yn y siop bwyd cyflym yn llawn amser a dechreuodd feddwl am opsiynau gyrfa eraill.

Pan glywodd fod Ambiwlans Awyr Cymru yn cyflwyno ei Chynllun Prentisiaeth cyntaf erioed, roedd yn awyddus i wybod mwy a gwnaeth gais i fod yn brentis Gweithiwr Cynaliadwyedd Warws.

Dechreuodd Leon, sy'n 18 oed, ei swydd ym mis Chwefror 2022 yn Warws Cwmdu yn Abertawe, ac yn ogystal â dysgu am agweddau amrywiol ar yr Elusen, mae wedi gweithio tuag at Ddiploma Lefel 2 Bwrdd Hyfforddi a Chynghori'r Diwydiant Rheoli Gwastraff (WAMITAB) mewn Ailgylchu a Chynaliadwyedd Warws.

Mae'r brentisiaeth wedi ei alluogi i weithio wrth ddysgu a meithrin ei sgiliau, tra'n ennill cyflog.

Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, Leon o Heol Caerfyrddin, Abertawe, yw prentis cyntaf Ambiwlans Awyr Cymru i basio ei gymhwyster, gan gyd-daro ag Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (6 i 12 Chwefror).

Dywedodd Leon ei fod wrth ei fodd ei fod wedi pasio'r Diploma Lefel 2 mewn Ailgylchu a Chynaliadwyedd Warws ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r Elusen.

Dywedodd: “Dim ond dydd Llun y cefais i wybod fy mod i wedi pasio, a dwi mor hapus. Gweithiais yn galed drwy gydol y flwyddyn, ond roeddwn i'n lwcus iawn. Yn syth ar ôl i mi orffen yn y coleg, dechreuodd Ambiwlans Awyr Cymru eu cynllun prentisiaeth cyntaf erioed. Dechreuodd popeth weithio allan i mi. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r Elusen ac at y cam nesaf. Mae yna bethau cyffrous i ddod!”

Dywedodd Leon fod ei wybodaeth, ei hyder a'i sgiliau wedi datblygu dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd y cynllun.

Dywedodd: “Pan ddechreuais, doeddwn i ddim yn siŵr sut roedd y gwaith yn ymwneud â chynaliadwyedd ond bellach rwy'n sylweddoli sut mae'n rhan o bopeth ac mae fy ngwybodaeth wir wedi gwella. Hyd yn oed heb wneud y brentisiaeth, mae gweithio yn y warws wedi rhoi profiad gwych i mi yn y pwnc.

“Nid oedd y brentisiaeth yn cynnwys profion ac roedd yn ymarferol iawn. Byddwn yn gweithio trwy lyfrau gwaith ac yn dangos y gwaith roeddwn i'n ei wneud yn fy swydd, fel tynnu lluniau o agweddau amrywiol ar gynaliadwyedd, mynd i'r uned ailgylchu neu roi trefn ar eitemau amrywiol. Mae wedi bod yn amrywiol iawn, a doeddwn i ddim yn teimlo fel fy mod i'n gwneud prentisiaeth. Roeddwn i'n teimlo fel cyflogai yn mynd i'r gwaith ac yn gwneud fy swydd.

“Mae'r brentisiaeth wedi bod yn wych i mi ac rwy'n mwynhau gweithio yma. Dwi'n teimlo'n falch iawn o gael gweithio i'r Elusen. Byddwn yn sicr yn argymell prentisiaeth i unrhyw un.”

Fel rhan o gynllun strategaeth newydd Ambiwlans Awyr Cymru, mae ffocws cryf ar ymgysylltu â phobl ifanc a chynaliadwyedd. Mae'r rhaglenni prentisiaeth yn atgyfnerthu ymrwymiad yr Elusen i ddatblygu agenda werdd ac mae hefyd yn helpu i roi'r cyfle i bobl ifanc gael cyflogaeth ystyrlon a llwyfan i ddatblygu.

Mae'r Elusen hefyd wedi cyflogi Jack Hancock sydd yn ei arddegau fel prentis, sydd hefyd yn gweithio yn warws Cwmdu. Y gobaith yw y gall Ambiwlans Awyr Cymru barhau i gynnig rhagor o raglenni prentisiaeth a rhoi'r cyfle i brentisiaid ddod yn aelodau parhaol o'r gweithlu.

Dywedodd Michelle Morris, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygiad Trefniadol Ambiwlans Awyr Cymru: “Creu cyfleoedd cyflogaeth a datblygu i bobl iau yw prif flaenoriaeth yr Elusen, ac roedd yn bleser gennym lansio ein rhaglen brentisiaeth Cynaliadwyedd ac Ailgylchu gyntaf yn 2021.

“Mae ein prentisiaid yn cael cymhwyster gwerthfawr a gydnabyddir gan y diwydiant wrth weithio ac ennill cyflog, gan roi'r cyfle iddynt feithrin sgiliau a gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i'w rôl a'r Elusen.

“Rydym wedi gweld buddiannau ein rhaglen brentisiaeth, mae ein prentisiaid wedi magu hyder, maent yn defnyddio'r hyn y maent yn ei ddysgu yn y gweithle, ac maent wedi cael effaith gadarnhaol ar y bobl o'u cwmpas.

“Mae'r rhaglen brentisiaeth wedi ein helpu i recriwtio a datblygu talent y dyfodol ac edrychwn ymlaen at ehangu ein rhaglenni prentisiaeth ymhellach.

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae'n cynnig gofal critigol ledled Cymru sy'n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).  

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Wrth sôn am lwyddiant prentisiaeth Leon, dywedodd ei reolwr Shaun Gower, Rheolwr Trafnidiaeth a Warws: “Rwy'n falch iawn o Leon, ac roedd yn llawn haeddu pasio ei brentisiaeth. Ers iddo ddechrau flwyddyn yn ôl, mae wedi datblygu'n aruthrol a bob amser yn llawn cymhelliant a ffocws. Mae'n weithgar, yn driw ac yn bwrw ymlaen gydag unrhyw dasg a roddir iddo ac mae'n aeddfed y tu hwnt i'w oedran.

“Rydym wedi cael cydberthynas gwaith da bob amser, sydd yn gwneud fy swydd fel rheolwr yn haws o lawer, o gael rhywun fel Leon y gellir ymddiried a dibynnu arno.

“Mae'n gymeriad mawr yn y warws, ac mae ei gyfraniad yn amlwg yn Ambiwlans Awyr Cymru. Mae ganddo'r gallu i lwyddo ymhellach yn yr Elusen ac edrychaf ymlaen at weld beth sydd nesaf ar ei gyfer.”