Mae pedwar nofiwr o Abertawe wedi codi dros £9,000 i elusen drwy nofio'r Sianel.

Nofiodd y Langland Sharks y Sianel mewn 13 awr a 28 munud er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon er cof am Hayley Hartson.

Roedd y menywod, sef Sue Croft, 56 oed, Louise Snelgrove, 38 oed, Shelley Griffin, 56 oed, a Sian Lewis, 61 oed, wedi bod yn hyfforddi am yr her fawr ers mis Hydref.

Nid yw nofio'r Sianel yn rhywbeth newydd i gapten y tîm, Sue – nofiodd y Sianel ar ei phen ei hun ychydig flynyddoedd yn ôl.

Yn wreiddiol, Sue a Shelley gofrestrodd i nofio'r Sianel, a gwnaethant ofyn i'w cyd-nofwyr brwd, Louise a Sian, ymuno â'u tîm cyfnewid.

Gwnaeth y Langland Sharks gyfarfod unwaith neu ddwywaith yr wythnos i nofio naill ai ym Mae Langland, y Mwmbwls neu Fae Abertawe i baratoi ar gyfer yr her enfawr, a ddigwyddodd ym mis Mehefin.

Dywedodd Louise: “Yn ystod y cyfnod pan ofynnwyd i ni ymuno â'r tîm, gwnaeth fy ffrind gorau a ffrind agos iawn i Siân golli ei chwaer Hayley yn drist ac yn sydyn. Roedd Hayley yn fam, yn ferch, yn chwaer, yn fodryb ac yn ffrind annwyl iawn.  Roedd yn gymeriad ac yn rhan frwdfrydig o unrhyw barti.

“Felly, gwnes i a Siân yr her hon er cof am Hayley ac rydym yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon. Gwnaeth Ambiwlans Awyr Cymru a meddyg cardiaidd weithio mor galed i achub Hayley, roedd ei theulu am i unrhyw arian a godwyd fynd i'r ddwy elusen hyn.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.       

Cododd y tîm £5,315 i Ambiwlans Awyr Cymru a £4,000 i Sefydliad Prydeinig y Galon.

Dywedodd Louise: “Rydym mor falch o'r swm y gwnaethom ei godi. Gwnaethom roi £250 fel targed a churo hynny'n hawdd. Mae ein holl deuluoedd, ffrindiau a phobl a oedd yn adnabod Hayley wedi bod mor hael.”

Dywedodd Jane Griffiths, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru yn y De: “Llongyfarchiadau i'r menywod am godi swm anhygoel i'r ddwy elusen. Dylech i gyd fod yn hynod falch o'ch cyflawniad. Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd y Langland Sharks ac a roddodd arian. Rydym yn ddiolchgar iawn bod Ambiwlans Awyr Cymru wedi cael ei dewis fel un o'r elusennau. Diolch am eich cefnogaeth, rydych yn helpu i gadw'r hofrennydd yn yr awyr 24/7.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.