Mae menyw o Bontarddulais wedi codi £1,230 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl cerdded miliwn o gamau mewn mis!

Llwyddodd Katy Edwards, 29 oed, i ragori ar ei tharged o gerdded miliwn o gamau yn ystod mis Mawrth gan gwblhau swm enfawr o 1,002,158 o gamau.

Roedd yr ymgynghorydd gweithrediadau i McDonalds yn gwybod bod pobl yn cymryd rhan mewn her 300,000 o gamau yn ystod y mis ac roedd hi am ragori ar y swm hwnnw i elusen sy'n agos iawn at ei chalon.

Dywedodd: "Roeddwn am i bobl weld cymaint yr oedd codi arian yn ei olygu i mi. Ambiwlans Awyr Cymru oedd fy newis elusen oherwydd rwy'n cerdded llawer ar y mynyddoedd a'r arfordir ac rwy'n gwybod petai unrhyw beth yn digwydd i unrhyw un, mae rôl Ambiwlans Awyr Cymru yn hollbwysig. Rwy'n gwybod bod yr elusen yn dibynnu ar roddion a sylweddolais efallai bod yr elusen wedi bod yn cael trafferth i gael yr un rhoddion yn sgil pandemig Coronafeirws o gymharu â'r blynyddoedd a fu."

Cafodd Katy 'gefnogaeth aruthrol' gan ffrindiau a theulu yn ystod ei her, nid dim ond o ran rhoddion, ond drwy ymuno â hi ar rai o'i theithiau cerdded ar ambell i ddiwrnod. Gwnaeth ei phartner, Nathan Jackson, gwblhau'r her miliwn o gamau gyda Katy hefyd fel nod bersonol, a helpodd hyn Katy i wneud ei chamau.

Wrth siarad am ei her enfawr, dywedodd Katy: "Roedd hi'n anodd ar y naw. Dechreuais swydd newydd ddechrau mis Mawrth a oedd yn golygu nad oedd gennyf gymaint o amser ag o'r blaen. Roedd yna ddiwrnodau lle'r oedd rhaid i mi wneud dros 60,000 o gamau er mwyn dal i fyny os oeddwn i wedi methu eu gwneud nhw'r diwrnod blaenorol."

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr elusen, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 20 oed ym mis Mawrth, ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr. 

Roedd Katy wedi gobeithio codi £200 ar gyfer yr elusen ac mae ar ben ei digon o fod wedi curo ei tharged camau a chodi arian a dywedodd: "Dim ond £200 roeddwn i wedi gobeithio'i godi oherwydd roeddwn i wedi gwneud 'Her Genedlaethol y Tri Chopa' llynedd a chodi rhyw £400. Felly, doeddwn i ddim yn credu y byddwn i'n llwyddo i godi £1,230 - rydw i wrth fy modd â'r swm a godwyd. Byddwn i'n annog unrhyw un i godi arian i elusen sy'n golygu rhywbeth iddynt, mae'n deimlad gwych."

Dywedodd Jane Griffiths, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De: "Llongyfarchiadau i Katy am gwblhau ei her. Gwnaeth Katy osod her iddi ei hun a fyddai'n codi ofn ar y mwyafrif o bobl. Nid yn unig y llwyddodd i'w chwblhau ond rhagorodd hi ar ei tharged o filiwn o gamau a chodi swm rhyfeddol i elusen. Diolch i Katy a phawb a'i chefnogodd i godi'r arian hwn.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.