Er gwaethaf y flwyddyn anarferol hon, bydd Her Nofio Bore Nadolig Porthcawl yn mynd rhagddi i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a sefydliadau lleol eraill.

Yn lle canslo'r digwyddiad, sydd wedi bod yn cael ei gynnal ers 55 o flynyddoedd, mae'r trefnwyr yn benderfynol y bydd Her Nofio Bore Nadolig Porthcawl yn mynd rhagddi, ond bydd ychydig yn wahanol eleni – ni chaff ei chynnal ar y traeth!

Mae'r trefnwyr yn awyddus i sicrhau y bydd 2020 yn flwyddyn i'w chofio, ac maent yn gofyn am eich help i ymuno yn yr hwyl rhithwir.

Y thema eleni ar gyfer un o draddodiadau gorau Porthcawl yw ‘Rhywle Draw Dros yr Enfys’ er mwyn cydnabod gwaith caled ein holl weithwyr allweddol, wrth edrych ymlaen at y dyfodol.

O ganlyniad i'r cyfyngiadau presennol, ni fydd modd cynnal her nofio dorfol yn Sandy Bay eleni, ond gyda chymorth y cyhoedd, maent am sicrhau y bydd yr her rithwir yn fythgofiadwy am resymau da.

Mae'r trefnwyr yn gofyn i bobl ‘Arllwys Dŵr i Godi Arian’ ('Splash for Cash') drwy feddwl am ffyrdd cyffrous a chreadigol i gwblhau eu Her Nofio Nadolig Rithwir eu hunain rhwng 1 a 25 Rhagfyr.

Dywedodd David King MBE, Cadeirydd Her Nofio Nadolig Porthcawl: “Mae'n bleser mawr i ni allu cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru eleni fel ein prif elusen. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gwasanaeth sy'n werthfawr iawn i'n cymunedau yng Nghymru. Mae'n ymateb i 15 o alwadau y flwyddyn ar gyfartaledd ym Mhorthcawl.  Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gobeithio dechrau gwasanaeth 24 awr yn fuan, a bydd hyn yn darparu hyd yn oed mwy o gymorth i'n cymunedau.

“Rydym hefyd yn cefnogi nifer o elusennau a sefydliadau lleol sydd, fel pob achos da, wedi wynebu gostyngiad mawr yn yr arian a godwyd eleni.  Erbyn hyn, mae Her Nofio Bore Nadolig yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr y dref, a hir oes iddi. Ar ôl 55 mlynedd o gynnal yr her, bu'n rhaid sicrhau y byddai'n mynd rhagddi!

“Mae'r Pwyllgor yn gobeithio y bydd yr ymateb i'n her nofio rithwir yr un mor llwyddiannus ag y bu yn y gorffennol. Ar ran y Pwyllgor, hoffem ddiolch i bawb fydd yn cymryd rhan, boed yn wylwyr, yn noddwyr, yn hysbysebwyr, neu'n gefnogwyr, yn ogystal â phawb fydd yn helpu i gynnal y digwyddiad. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Well i chi i gyd.”

Gallwch rannu eich lluniau a'ch fideos drwy dudalen Facebook Her Nofio Bore Nadolig Porthcawl neu ar ein cyfrif Twitter @christmasswim, neu gallwch ein tagio ar Instagram drwy ddefnyddio @christmasswim.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer De Cymru: “Rydym wrth ein boddau o gael ein dewis fel y brif elusen ar gyfer her nofio bore Nadolig eleni. Mae'r trefnwyr wedi meddwl am ffordd wych o wneud yn siŵr bod modd i bobl gymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol yn rhithwir. Rwy'n siŵr y bydd y cyhoedd yn meddwl am eu ffyrdd hwyliog a difyr eu hunain i sicrhau y bydd y digwyddiad hwn yn arbennig ac yn gofiadwy. Hoffwn ddiolch i Her Nofio Bore Nadolig Porthcawl am y rôl mae'n ei chwarae i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr ac achub bywydau yng Nghymru.”

Mae'r pwyllgor y gobeithio y bydd modd cynnal her nofio dydd Nadolig ar Sandy Beach eto yn 2021. 

Ewch i christmasswim.org i gael rhagor o fanylion.